Rhyfeloedd y Rhosynnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
GhalyBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: arz:حروب الوردتين
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Roedd '''Rhyfeloedd y Rhosynnau''' yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o [[1455]] i [[1485]] rhwng cefnogwyr Teulu Lancaster (y [[Lancastriaid]]) a Theulu Iorc (yr [[Iorciaid]]) oeddynt. Fe'i gelwir "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod [[rhosyn]] coch yn cynrychioli Lancaster a rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd [[Coron Lloegr]]. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt un ogystal.
 
Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth [[Harri Tudur]] ym [[Brwydr Bosworth|Mrwydr Bosworth]] yn [[1485]]; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w cefnogigefnogi pan laniodd yn [[Sir Benfro]], trechodd Harri y brenin [[Rhisiart III o Loegr|Rhisiart III]] a chipiodd goron [[Lloegr]] gan agor [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].
 
=== Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru ===
Er na fu brwydrau o bwys yng [[Cymru|Nghymru]], yr oedd Cymru yn ffynhonnell bwysig o filwyr i'r ddwy blaid. Y ddau arweinydd pwysicaf yng Nghymru oedd y ddau [[Iarll Penfro]], [[Siaspar Tudur]] dros y Lancastriaid a [[William Herbert]] dros yr Iorciaid. Yn ddiweddarach yr oedd gan Syr [[Rhys ap Thomas]] ran bwysig ynmewn codi milwyr i Harri Tudur yng Nghymru cyn brwydr Bosworth. Tueddai'r rhan fwyaf o'r [[Cymry]] i ochri â phlaid y [[Lancastriaid]] yn erbyn yr [[Iorciaid]], ond yr oedd hefyd gryn gefnogaeth i'r Iorciaid. Yr oedd y barddRoedd [[Guto'r Glyn]] er enghraifft yn blediwr selog i'r Iorciaid. Ym [[Brwydr Mortimer's Cross|Mrwydr Mortimer's Cross]] yr oedd llawer o Gymry yn y ddwy fyddin, ac wedi i'r Iorciaid ennill y dydd, dienyddiwyd [[Owain Tudur]].