Gweledigaethau y Bardd Cwsc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn [[1703]] yw '''''Gweledigaethau y Bardd Cwsc''''' gan [[Ellis Wynne]]. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y [[18fed ganrif]].
 
Mae'r gwaith yn seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg [[Roger L'Estrange]] a [[John Stevens]] o'r llyfr ''Los Sueños'' ('Y Breuddwydion') gan y [[Sbaen]]wr Don [[Francisco de Quevedo]] (1580-1645). Mae'r bardd yn gweld tair gweledigaeth fel mae'n modrwyo drwy'r byd (''Gweledigaeth cwrs y Byd''), drwy angau (''Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa'') a thrwy uffern (''Gweledigaeth Uffern''). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc ym Mrenhinllys isa Angau. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at uffern. Llyfr [[bwrlesg]] a ysgrifennwyd mewn [[Cymraeg]] naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r ''Gweledigaethau''. Mae'n dangos meistrolaeth yr awdur ar Gymraeg clasurol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. [[Gweledigaeth]] o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys [[Paradwys]] yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o [[Uffern]] a [[dychan]] deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.