Surop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 3:
== Coginiaeth ==
[[Delwedd:PancakesWithSyrup.jpg|bawd|Surop masarn ar [[crempog|grempogau]]. Gellir hefyd arllwys surop masarn dros [[waffl]]au ac [[hufen iâ]].]]
Daw suropau coginio gan amlaf o [[grawn|rawn]], ffrwythau, neu [[sudd (botaneg)|sudd]] planhigion a choed. Gellir arllwys surop dros fwyd, yn enwedig suropau persawrus megis [[surop masarn]], neu ei ddefnyddio fel cynhwysyn. Cynhwysyn melys yw surop a ddefnyddir gyda siwgr, neu yn ei le. Mewn [[cacen goch]], er enghraifft, mae surop yn rhoi iddi ansawdd llaith a thrwchus. Mewn [[fflapjac]]s, mae surop yn pobi â siwgr, menyn a cheirch i greu cymysgedd ynsy'n debyg i [[toffi|doffi]]. Coginir fflapjacs am gyfnod byr i'w gwneud yn gnoadwy, neu'n hirach i'w gwneud yn galed.<ref>Good Housekeeping ''Food Encyclopedia'' (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 412.</ref>
 
Gwneir [[triagl]] (neu driog) trwy goethi siwgr o'r [[cansen siwgr|gansen]]. Mae gan y surop trwchus a thywyll a elwir yn [[triagl du|driagl du]] flas chwerw yn debyg i [[licris]].<ref name=FE-411>''Food Encyclopedia'', t. 411.</ref> Ceir math arall o driagl, yn drwchus ond yn felyn-aur ei liw ac â blas melys iawn, o'r enw [[triagl melyn]]. Gellir ei arllwys dros fwydydd neu ei ddefnyddio mewn cymysgeddau [[teisen]]ni a [[bisged]]i, ac i wneud [[saws]]iau megis [[menyn caramel]].<ref name=FE-410>''Food Encyclopedia'', t. 410.</ref>