Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 65 beit ,  6 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, [[Llansadwrn]], [[Ynys Môn]]. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith [[copr]] [[Mynydd Parys]] ger [[Amlwch]]. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.
 
O gwmpas [[1785]] daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r ''Cornish Metel Company'', oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner [[Diwydiant copr Cymru|diwydiant copr]] y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", oherwydd ei ddull gonest o drin ei weithwyr ac o fasnachu, ond roedd yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.
 
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.
3,441

golygiad