Pop Cymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhys (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
== Rhagymadrodd ==
Roedd [[Cerddoriaeth boblogaidd|cerddoriaeth bop]] Cymraeg yn gymharol hwyr yn datblygu. Roedd diwylliant pop yn y dinasoedd ond araf oedd e i gyrraedd yr ardaloedd gwledig Cymraeg. Roedd llawer o rhesymau am hyn. Gan fod Cymru'n wlad fynyddig, roedd derbyniad [[radio]] yn wael yn yr ardaloedd gwledig a doedd llawer o Gymry Cymraeg ddim yn clywed caneuon bop. Roedd y Cymry Cymraeg yn dueddol i wneud eu diwillant eu hunain wrth [[Barddoniaeth|farddoni]] a chanu [[Cân werin|caneuon gwerin]] traddodiadol mewn [[Noson lawen|nosweithiau llawen]] neu [[Eisteddfod|eisteddfodau]]. Cyn y [[1960au]] doedd dim [[trydan]] yng Nghymru yn yr ardaloedd gwledig. Doedd hi ddim yn bosibl chwarae [[gitâr]] trydan. Roedd rhaid defnyddio offerynau acwstig, felly fe wnaeth y traddodiad canu gwerin barhau. Roedd dylanwad crefydd ac emynau yn dal i barhau hefyd. Doedd rhythm yr iaith Gymraeg ddim yn ffitio rhythmau [[RocCerddoriaeth roc|roc a Rôlrôl]] yn dda ac yn swnio braidd yn od. Cerddoriaeth ddawns oedd [[Rocroc a Rôl]]rôl yn wreiddiol, felly doedd y geiriau ddim yn bwysig. Roedd ambell i gystadlaeth pop mewn eisteddfodau ond anodd iawn oedd gosod drymau ac offerynau trydan ar lwyfan er mwyn canu un gân fach, yn enwedig pan oedd cystadleuwyr eraill yn disgwyl i ddefnyddio'r llwyfan. Roedd y beirniaid, a oedd yn arfer beirniadu [[cerdd dant ]] a chanu [[penillion]], yn gwybod dim byd am ddulliau chwarae'r [[bluesY felan|felan]], sylfaen cerddoriaeth bop.
 
== Yr arloeswyr ==
Roedd yna adfywiad [[Cân werin|caneuon gwerin]] ar ddechrau'r [[1960au]]. Roedd rhythm yr iaith Gymraeg yn mynd gyda rhythmau [[roc werin]] a [[Cerddoriaeth roc|roc]] yn llawer gwell na rhythmau [[Rocroc a Rôl]]rôl cynnar. Roedd hi'n bossibl i gyfansoddi a chanu caneuon [[Cerddoriaeth roc|roc]] a [[Cerddoriaeth boblogaidd|pop]] yng Nghymraeg.
 
Roedd [[Dafydd Iwan]] wedi bod yn canu a chyfeilio ei hunan ar y gitâr ers [[1962]].
Llinell 14:
 
Y grwp pop Cymraeg cyntaf oedd [[y Blew]], 'does dim dwywaith amdani.
Fe gynhalwyd gyngerdd bop yn y babell lên ar gae [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967|Eisteddfod y Bala yn 1967]]. Roedd [[y Blew]] a [[Dafydd Iwan]] yn perfformio yno. Ers hynny mae cyngherddau pop wedi bod yn gysylltiedig â'r eisteddfod bob blwyddyn.
 
== Caneuon brotest ==