Ron Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.14 - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 28:
Ar ôl dwy flynedd fel [[meinciwr cefn]], penodwyd Ron Davies yn [[Chwip]] yr [[Gwrthblaid|Wrthblaid]] gyda chyfrifoldeb am amaeth a'r amgylchedd. Ym 1987 fe'i penodwyd i'r [[mainc flaen|fainc flaen]] fel llefarydd ar Addysg a Materion Gwledig, lle bu'n gyfrifol am adolygu polisi'r Blaid Lafur ar les anifeiliaid.
 
Fe'i penodwyd yn Brif Lefarydd yr Wrthblaid ar amaeth ym mis Gorffennaf 1992, a gwnaeth lawer ar y pryd i dynnu sylw at fygythiad [[BSE]] cyn i'r achosion gyrraedd y newyddion. Ym mis Hydref 1992, fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd[[Llefarydd Gwladolyr Wrthblaid ar Faterion Cymreig|Lefarydd yr Wrthblaid drosar Faterion GymruCymreig]] gan [[John Smith]].
 
Fel prif lefarydd y Blaid Lafur ar Gymru rhwng 1992 a 1993, Ron Davies a ddatblygodd bolisi datganoli'r blaid. Llwyddodd i gael cefnogaeth i'r syniad o Gynulliad a chanddo drigain o aelodau wedi'u hethol yn rhannol drwy [[cynrychiolaeth gyfrannol|gynrychiolaeth gyfrannol]] i gyflawni swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Roedd wedi ymgyrchu yn fewnol am gorff mwy grymus ond methodd â darbwyllo'i blaid.