Diwygiad 1904–1905: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Lloffiwr (sgwrs | cyfraniadau) B categori |
tacluso / wiki / ceisio cael llai o safbwynt npv |
||
Llinell 1:
'''Diwygiad [[1904]]-[[1905]]''' oedd y [[diwygiad]] mawr [[Cristnogaeth|Cristnogol]] olaf i genedl y [[Cymry]] ei weld hyd yn hyn. Mi fyddai rhai yn dadlau fod rhai adfywiadau lleol wedi digwydd ers hynny; er enghraifft "[[bendith]]" [[Cross Hands
== Y Cefndir ==
Yn [[1859]] y gwelwyd y diwygiad diwethaf cyn 1904-1905, rhwng 1859 ac 1904 bu cryn newid ym myd Cristnogaeth y Cymry. Er [[1850]] roedd Cymru yn colli mwy a mwy o'i draddodiad hanesyddol
Felly erbyn 1904 roedd sawl [[eglwys]] a sawl arweinydd Cristnogol Ymneilltuol yng Nghymru wedi troi cefn ar y traddodiad Calfinaidd, bellach roedd eu Cristnogaeth yn ddim byd mwy na rhan o'
== Paratoi'r ffordd i'r Diwygiad ==
Yn ystod y cyfnod rhwng 1859 a 1904, cafwyd adfywiadau lleol o bryd i'w gilydd; bu adfywiadau lleol yng [[Cwmafan|Nghwmafan]] ([[1866]]), [[Y Rhondda]] ([[1879]]), [[Caerfyrddin]] a [[Blaenau Ffestiniog]] ([[1887]]), [[Dowlais]] ([[1890]]) a'r [[Bontnewydd]] ([[1892]]).
== Y Diwygiad yn dechrau ==
Llinell 19:
=== Ceinewydd a Blaenannerch ===
Arweinydd blaenllaw yn y diwygiad oedd gweinidog Methodistaidd [[Y Ceinewydd]], [[Joseph Jenkins]]. Yn ystod [[1903]] roedd yn awchu am adfywiad ysbrydol yng Nghymru.
Erbyn Medi 1904 fe drefnwyd cynhadledd ym [[Blaenannerch|Mlaenannerch]]. Fe adroddwyd fod bendith aruthrol wedi bod yn y gynhadledd ac fe ledaenwyd y newydd drwy'r ardal a thu hwnt. Fe adroddwyd yr hanes yn y ''[[South Wales Daily News]]'', lle yr adroddwyd fod y 'trydydd diwygiad mawr' ar droed trwy Gymru
=== Rhydaman ===
Llinell 27:
Ar ddechrau Tachwedd 1904 fe wahoddwyd Joseph Jenkins fel pregethwr gwadd i gapel Bethani, [[Rhydaman]], eglwys [[Nantlais Williams]]. Fe drefnwyd fod Joseph Jenkins i ddod cyn fod newydd am y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman, serch hynny gan fod Joseph Jenkins yn dod teimlodd Nantlais y byddai hi'n briodol trefnu cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul i Joseph Jenkins adrodd yr hanes. Mae'n debyg i Nantlais ofidio na fyddai diddordeb ac na fyddai neb yn dod i'r cyfarfod arbennig yma, serch hynny pan gyrhaeddodd Nantlais prin yr ydoedd yn medru mynd i mewn i glywed Joseph Jenkins.
Ymhell cyn clywed sôn am ddiwygiad roedd hi wedi ei threfnu fod Joseph Jenkins i siarad ar y Nos Lun cyn iddo ddychwelyd i Geinewydd. Fe lenwyd y capel i'r ymylon unwaith yn rhagor ar y nos Lun, ond o bosib y digwyddiad mwyaf hynod y noson honno oedd i ŵr ddatgan o'r galori “Mi fydd cyfarfod arall yma nos yfory...”. Fe gynhaliwyd cyfarfod arall ar y nos Fawrth a barhaodd tan oriau mân y bore; roedd y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman. Er bod Nantlais eisoes wedi ei ordeinio gan y Methodistiaid, gwerth fyddai nodi na chafodd Nantlais dröedigaeth tan benwythnos ymweliad Joseph Jenkins â Rhydaman yn Nhachwedd 1904. Daeth
=== Gogledd Cymru ===
Yn Rhagfyr 1904 fe aeth Joseph Jenkins ar daith bregethu am dri mis i Ogledd Cymru. Bendithiwyd cyrddau yn [[Amlwch]], [[Llangefni]], [[Llannerchymedd]], [[Talysarn]], [[Llanllyfni]], [[Dinbych]], [[Llanrwst]], [[Dinorwig]], [[Disgwylfa]] ac ymysg myfyrwyr ym
=== [[Evan Roberts]] a Chasllwchwr ===
Roedd Evan Roberts yn ddyn ifanc a ddylanwadwyd arno gan y storiâu oedd yn dod i Geinewydd a Blaenannerch. Fe deimlodd alwad i fynd i'r weinidogaeth ac fe aeth am ei hyfforddiant bugeiliol i [[Castell Newydd Emlyn|Gastell Newydd Emlyn]]; wrth gwrs daeth i dde [[Ceredigion]] yn ystod cynnwrf mawr Blaenannerch. Fe ddaeth Seth Joshua, un o arweinwyr eraill y diwygiad, i'r ardal i gynnal cyfarfodydd, disgwyliai Evan Roberts ymlaen yn eiddgar. Yn ystod ail bregeth Seth Joshua ym Mlaenannerch fe syrthiodd Evan Roberts i'r llawr a gwaeddu allan “Plyg fi; plyg fi; plyg ni!”.
Wedi tri mis o hyfforddiant yng Nghastell Newydd Emlyn fe ddychwelodd Evan Roberts i Gasllwchwr i ddechrau ar ei weinidogaeth.
=== Y papurau newydd ===
Dyma oedd y diwygiad cyntaf i'r cyfryngau poblogaidd chwarae rôl ynddo. Roedd y ''[[Western Mail]]'' a'r ''[[South Wales Daily News]]'' wedi chwarae rhan allweddol yn lledaenu’r newyddion fod diwygiad yn y tir. Fe roddwyd sylw arbennig i Evan Roberts a'i waith gan y ''Western Mail''. Mae rhai haneswyr yn nodi fod y papurau hyn yn cynrychioli meistri mawr y gweithfeydd haearn a'r pyllau glo yn y De ac felly'n baros iawn i gefnogi symudiad i ffrwdd o wleidyddiaeth sosialaidd a radicalidd y dydd gan ei weithwyr.
== Casgliadau ==
Credir fod oleuaf 100,000 o bobl wedi dod yn Gristnogion yn y diwygiad. Er gwaetha'r ffaith i fas sylweddol o bobl brofi tröedigaeth ni lwyddodd y diwygiad i atal dirywiad graddol Cristnogaeth yng Nghymru, megis ei atal rhyw ychydig dros dro y gwnaeth. Dywedir fod diffyg dyfnder i ddiwygiad 1904-1905, ac fe fethwyd meithrin Cristnogion a ddaeth i ffydd yn y diwygiad yn effeithiol.
Mae effaith Cristnogaeth ar Gymru, gellid dadlau, yn fwy na dylanwad [[Marcsiaeth]] ar [[Rwsia]]. Roedd diwygiad 1904-1905 yn gorwynt fel y nododd J.T. Job, ond nid oedd yn deiffŵn y diwygiad Methodistaidd wedi ei ail adrodd.
== Ffynonellau ==
Llinell 56:
==Dolennau Allanol==
*[http://www.bbc.co.uk/wales/religion/sites/timeline/pages/religion_in_wales_13.shtml Diwygiad 1904 - BBC - Hanes (Saesneg)]
*[http://www.bbc.co.uk/religion/religions/christianity/history/welsh_revival/ Roy Jenkins ar y Diwygiad BBC (Saesneg)]
* [http://www.bbc.co.uk/wales/southwest/halloffame/public_life/evanroberts.shtml Evan Roberts BBC (Saesneg)]
|