Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sgandal dros gamdrin plant yn rhywiol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru oedd '''sgan...' |
cychwyn ehangu - Ymchwiliad ac Adroddiad Waterhouse |
||
Llinell 1:
Sgandal dros [[camdrin plant yn rhywiol|gamdrin plant yn rhywiol]] mewn [[cartref gofal|cartrefi gofal]] yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]] oedd '''sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru''', a ganolbwyntiodd ar achosion yng [[Clwyd|Nghlwyd]] a [[Gwynedd]] o 1974 hyd 1990. Penodwyd Syr [[Ronald Waterhouse]] i arwain ymchwiliad ym 1997, a chyflwynwyd adroddiad Waterhouse yn 2000. Crewyd swydd [[Comisiynydd Plant Cymru]] o ganlyniad.
== Cefndir ==
{{eginyn-adran}}
== Ymchwiliad Waterhouse ==
Gorchmynwyd ymchwiliad gan [[William Hague]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], ym 1996.
Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_641000/641827.stm |teitl=Cynnig llais i blant mewn gofal |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=13 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=23 Hydref 2012 }}</ref>
=== Adroddiad Waterhouse ===
Yn Chwefror 2000 cyhoeddwyd yr adroddiad, "Ar Goll mewn Gofal", oedd yn hanner miliwn o eiriau ac yn cynnwys 72 o argymhellion. Galwodd yr adroddiad am "ad-drefnu'r system gofal yn llwyr", a beirniadodd weithwyr cymdeithasol, staff cartrefi preswyl, awdurdodau lleol, yr heddlu a'r Swyddfa Gymreig.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_642000/642943.stm |teitl=Galwad am 'ad-drefnu'r system gofal yn llwyr' |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=15 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=23 Hydref 2012 }}</ref> Ymhlith yr argymhellion oedd i benodi Comisiynydd Plant i Gymru, i awdurdodau lleol benodi Swyddog Cwynion i Blant, i awdurdodau lleol weithredu trefn [[canu cloch]], i weithwyr cymdeithasol ymweld â phlant yn eu gofal bob dau fis, i adolygu'r rheolau parthed gofal preswyl preifat ac i adolygu anghenion a chostau gwasanaethau plant yn y Deyrnas Unedig.<ref name=erlyn/>
Croesawyd casgliadau'r adroddiad gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, John Owen, ond datganodd na fydd yr heddlu yn erlyn yr un berson mewn cysylltiad â'r honiadau.<ref name=erlyn>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_645000/645400.stm |teitl=Dim erlyn, meddai'r heddlu, ar ôl adroddiad camdrin |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=16 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=23 Hydref 2012 }}</ref>
== Canlyniadau ==
{{eginyn-adran}}
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:20fed ganrif yng Nghymru]]
|