Waldo Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Waldo Williams''' yn [[heddychaeth yng Nghymru|heddychwr]], yn [[crynwr|grynwr]], yn [[cenedlaetholdeb Cymreig|genedlaetholwr]], yn [[sosialaeth|sosialydd]] ac yn un o [[bardd|feirdd]] mwyaf [[Cymru]]'r ugeinfed ganrif ([[30 Medi]] [[1904]] – [[20 Mai]] [[1971]]). Un o'i gerddi enwocaf yw 'Mewn Dau Gae'.
 
Cafodd ei eni yn [[Hwlffordd]], yn fab i [[J Edwal Williams]], athro ysgolion cynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd [[Angharad Jones]] a SeasnegSaesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch [[John Jenkins (gweinidog ac heddychwr)|John Jenkins]], gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.
 
Yr oedd yn saith oed yn dysgu [[Cymraeg]] pan symudodd y teulu i [[Mynachlog-ddu|Fynachlog-ddu]] yng ngogledd [[Sir Benfro]], [[1911]] - [[1915]] lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn [[1915]] daeth ei dad yn brifathro ar Yagol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu yn aelodau yn eglwys y Bedyddwyr Blaenconin lle yr oedd y Parch [[T.J. Michael (Gweinidog)|T J Michael]] yn weinidog ac yn heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn [[1926]]. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru a Lloegr. Bu hefyd yn diwtor dosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, [[Coleg y Brifysgol Aberystwyth]].