Lesbos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Ynys]] [[Gwlad Groeg|Roeg]] yn y [[Sporades]] Dwyreiniol yn y [[Môr Aegeaidd]] yw '''Lesbos''' ([[Groeg]] ddiweddar ''Lésvos''). Mae'n gorwedd yn agos iawn i dir mawr [[Twrci]]. Ei chanolfan yw dinas [[Mitilene]] (weithiau gelwir yr ynys ei hun 'Mitilini' nei 'Mitilene', ar ôl ei brif ddinas). Tyfir yr [[olewydden]] a chnydau grawn yno. Mae pysgota [[sardîn]]s yn bwysig hefyd ond y prif ddiwydiant heddiw yw [[twristiaeth]]. Ar ôl [[Crete]] ac [[Euboea]] Lesbos yw'r fwyaf o'r ynysoedd Aegaeaidd.
 
Ceir olion presenoldeb pobl o'r oes [[Neolithig]] ar Lesbos. Ymsefydlodd y Groegiaid ar yr ynys tua 1000 CC. Blodeuodd diwylliant Groeg yno ac fe'i cysylltir yn arbennig â barddoniaeth Roeg [[telyneg|delynegol]] a gwaith [[Sappho]] ac [[Alcaeus]]. Roedd yr ynys yn rhan o [[Aeolis]] ac yn aelod o [[Cynghrair Delos|Gynhgrair Delos]] yng [[Groeg yr Henfyd|Ngroeg yr Henfyd]]. Yn ddiweddarach daeth i feddiant y [[Rhufeiniaid]] a gwnaethpwyd Mitilene yn borthladd rhydd ganddynt.
 
Codwyd nifer o eglwysi hardd yno ar ddechrau'r cyfnod [[Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantaidd]]. Roedd yn arfer alltudio pobl i Lesbos, e.e. yr [[Irene, Ymerodres Fysantaidd|Ymerodres Irene]] yn [[809]]. Yn ystod y canrifoedd nesaf newidiai ddwylo yn aml rhwng y Bysantiaid, y [[Croesgadau|Croesgadwyr]], y [[Saraseniaid]] a'r [[Twrci|Tyrciaid]]. Syrthiodd i'r [[Ymerodraeth yr Otomaniaid|Otomaniaid]] yn [[1462]]. Brodor o'r ynys oedd y [[môr leidr]] [[Khair-ed-din Barbarossa]]. Daeth yn rhan o Wlad Groeg yn [[1912]].