Auckland: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 107:
Daeth y Maori i Auckland tua 650 mlynedd yn ôl, ac yn aml, sefydlwyd caerau gan y Maori ar ben yr hen losgfynyddoedd, megis Mynydd Eden ac One Tree Hill. Un o'r enwau Maori yr ardal yw ''Tamaki herenga waka', sy'n golygu 'gorffwysfan llawer o gychod'; harbwr diogel ar eu cyfer nhw.
 
Ym 1642, darganfuwyd [[Seland Newydd]] gan [[Abel Tasman]] ac ym 1769, cyrhaeddodd [[James Cook]] i fapio'r arfordir. Erbyn 1840 roedd Prydeinwyr wedi cyrraedd; llofnodwyd [[Cytundeb Waitangi]] rhyngddynt a'r Maori ar 6ed Chwefror, 1840. Dewisodd William Hobson, rhaglaw cyntaf [[Seland Newydd]] Auckland fel prifddinas. Dewisodd Hobson yr enw Auckland, enw ei gyn-gadlywydd, Yr Arglwydd Auckland, rhaglaw India ar adeg honno. Enw teuluol yr arglwydd oedd Eden, enw arall sy'n ymddangos yn yr ardal. Erbyn 1843 roedd gan Auckland dros 3000 o drigolion, ac erbyn diwedd yr 1860au, roedd 12,000 ohonynt.
 
Prif ardal fasnachol y dref wreiddiol oedd yn Commercial Bay, rhwng Point Britomart a'r esgair lle mae Heol Swanson heddiw. Gerllaw, i'r gorllewin, oeddroedd Official Bay, lle roedd swyddogion y llywodraeth yn byw. Mechanics Bay oedd yr un nesaf i'r gorllewin, oherwydd gwaith ei drigolion.
 
Erbyn yr 1890s, clywyd llawer o ieithoedd ar y strydoedd llawn bobl o [[Ewrop]], [[Tseina]] ac [[India]], heb sôn am bobl Maori oedd wedi cyrraedd o ardaloedd gwledig.