Ieuan Wyn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwell llun - Comin Wicifryngau
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
Bu'n Gadeirydd Plaid Cymru rhwng 1980 a 1982 a rhwng 1990 a 1992. Ef oedd Cyfarwyddwr Ymgyrchu y Blaid yn Etholiadau Cynulliad 1999.
 
Cynrychiolodd [[Sir Fôn]] fel [[aelod seneddol]] dros Blaid Cymru o [[1987]] hyd [[2001]] ac yn y [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad]] o Fai [[1999]] hyd y presenol. Daeth yn Llywydd Plaid Cymru yn dilyn ymddeoliad [[Dafydd Wigley]] ac yn dilyn etholiad [[2003]] daeth [[Dafydd Iwan]] yn Lywydd, ac etholwyd Ieuan Wyn Jones yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad. Cymerodd drosodd o [[Mike German]] fel [[Dirprwy Brif Weinidog Cymru]] yn y llywodraeth glymblaid Llafur - Plaid Cymru yn [[2007]], a deliodddaliodd y swydd hyd i'r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth lleiafrifleiafrifol yn [[2011]].
 
Yn 2007 fe enwyd Jones yn "Wleidydd y Flwyddyn" gan [[BBC Cymru]], ar eu rhaglen ''[[am.pm.]]''.<ref>{{dyf gwe| url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/7125523.stm| teitl=Jones takes top politician award| dyddiad=5 Rhagfyr 2007| cyhoeddwr=BBC}}</ref>
 
==Arddull personol==
Disgrifir Jones fel cyd-drafodwr craff iawn, ac yn "ddyn o egwyddorion, sydd hefyd yn ddyn dibynadwy ac yn wrandawr da."<ref name="remarkable">{{dyf gwe| url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6288722.stm| teitl=A 'remarkable journey' for Jones| cyhoeddwr=BBC| awdur=Adrian Browne| dyddiad=11 Gorffennaf 2007}}</ref> Cyfarfu [[Dafydd Elis-Thomas]], [[Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Llywydd y Cynulliad]] gyda Ieuan Wyn Jones dros 30 mlynedd yn ôl mewn coleg yn Lerpwl (y Liverpool Polytechnic) a dywedodd amdano, "mae'n drefnydd da o gryfder anferthol".<ref name="remarkable" /> Dywedodd hefyd fod Jones yn siarad gyda phob aelod o'i grwp yn unigol gyncyn gwneud penderfyniad, a bod Llywodraeth y Cynulliad yn cyflawni'r hyn mae'n ei addo.
 
Mae ei arddull yn llawer mwy addfwyn a thawel nanag arddull [[Rhodri Morgan]].<ref name="remarkable" /> Disgrifiwyd Jones gan arweinydd [[y Blaid Geidwadol]] fel "person y medrwch ddibynnu arno" ac "mae ganddo bâr saff iawn o ddwylo... arweinydd da hefyd i'w blaid."<ref name="remarkable" />
 
Pragmatydd ydy Jones yn y bôn<ref>{{dyf gwe| url=http://news.bbc.co.uk/2/hi/uk_news/wales/3110168.stm| teitl=The Comeback Kid| cyhoeddwr=BBC| dyddiad=15 Medi 2003}}</ref> gan lywio'i ffordd drwy'r canol - rhwng elfennau sosialaidd aelodau de Cymru ac ymgyrchwyr iaith [[Môn]] a [[Gwynedd]]. Tra'n siarad am sefyllfa Gogledd Iwerddon yn [[Stormont]] ar [[16 Gorffennaf]] [[2007]], dywedodd Jones, "Gwelsom yng Nghymru, hefyd, bleidiau'n dod at ei gilydd i rannu rhaglen llywodraethu a rhannu'r penderfyniad i lwyddo i wella ansawdd bywydau pobl, yr holl bobl drwy'r holl wlad...".<ref>{{dyf gwe| url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6900349.stm| teitl=Jones and Brown meet at Stormont| cyhoeddwr=BBC| dyddiad=16 Gorffennaf 2007}}</ref>