Cynllwyn y Powdwr Gwn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: it:Congiura delle polveri
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Gunpow1.jpg|thumb|250px|Arweinwyr Cynllwyn y Powdwr Gwn, llun gan Crispin de Passe yr Hynaf. [[Guy Fawkes]] yw'r trydydd o'r dde.]]
 
'''Cynllwyn y Powdwr Gwn''' ([[Saesneg]]: ''Gunpowder Plot'') yw'r enw a roddir ar gynllwyn gan grŵp o [[Yr Eglwys Gatholig Rufeinig|Gatholigion Rhufeinig]], [[Lloegr|Seisnig]] yn [[1605]]. Eu bwriad oedd chwythu i fyny [[Senedd Lloegr]] a lladd y brenin [[Iago I o Loegr]], a thrwy hynny ddinistrio'r llywodraeth [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]] trwy ladd y pendefigion Protestannaidd.
 
Roedd y Catholigion wedi dioddef cryn erlid o dan [[Elisabeth I, brenhines Lloegr]]. Roeddynt wedi gobeithio y byddai eu sefyllfa'n gwella wedi i Iago ddod i'r orsedd, ond er ei fod wedi lled-addo hynny cyn dod i'r orsedd, ni newidiodd bolisi Elisabeth. O ganlyniad, dechreuodd [[Robert Catesby]] a nifer o gatholigionGatholigion ieuanc eraill gynllwynio yn erbyn y brenin a'r llywodraeth. Cyflwynwyd [[Guto Ffowc]], oedd yn filwr profiadol, i Catesby gan y Cymro [[Hugh Owen (cynllwynwyr Catholig)|Hugh Owen]].
 
Gosodwyd nifer o farilau o bowdwr gwn mewn seler dan y Senedd, gyda'r bwriad o'u ffrwydro pan oedd y brenin yno. Fodd bynnag, cafwyd hyd i'r powdwr ar [[5 Tachwedd]] [[1605]], a chymerwyd y cynllwynwyr i'r ddalfa. Dienyddiwyd nifer ohonynt dri mis yn ddiweddarach.