Marchog crwydr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|''The Knight Errant'' gan [[John Everett Millais, 1870.]] Cymeriad o lenyddiaeth ramantaidd yr Oesoed...'
 
B dol
Llinell 1:
[[Delwedd:The Knight Errant.jpg|bawd|''The Knight Errant'' gan [[John Everett Millais]], 1870.]]
Cymeriad o [[rhamant|lenyddiaeth ramantaidd]] [[yr Oesoedd Canol]] yw'r '''marchog crwydr''' neu'r '''marchog crwydrad'''. Bydd y [[marchog]] crwydr yn teithio gan ddangos ei ddewrder a'i [[sifalri]], yn ymladd gornestau a ''[[pas d'armes]]'', yn canlyn [[serch llys]], ac yn helpu'r rhai mewn angen.
 
Marchogion [[Cylch Arthur]], gan gynnwys [[Lawnslot]] a [[Gwalchmai ap Gwyar]], yw'r marchogion crwydr gwreiddiol. Yr arch-chwedl oedd yr Ymchwil am [[y Greal Santaidd]], yn ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan [[Chrétien de Troyes]] (1180au). Gwelir defnydd cyntaf y term ''knygt erraunt'' yn y gerdd ''[[Sir Gawain and the Green Knight]]'' yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.<ref>[http://www.randomhouse.com/wotd/index.pperl?date=20010328 The Maven's Word of the Day: Knight Errant]</ref> Cafodd yr uchelwr [[Ffranciaid|Ffrancaidd]] [[Rolant]] ei bortreadu fel marchog crwydr mewn llenyddiaeth Ffrengig ac Eidalaidd. Roedd straeon y marchogion crwydr yn boblogaidd mewn [[llys (brenhinol)|llysoedd]] Ewrop hyd [[yr Oesoedd Canol Diweddar]], yn bennaf yn yr ieithoedd [[Ffrangeg Canol]], [[Saesneg Canol]] ac [[Almaeneg Canol]].