Emily Post: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Awdures Americanaidd oedd '''Emily Post''' (27 Hydref 1872 – 25 Medi 1960) a ysgrifennodd ar safon ymddygiad. Mae ei henw yn gyfystyr...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:38, 4 Tachwedd 2012

Awdures Americanaidd oedd Emily Post (27 Hydref 1872 – 25 Medi 1960) a ysgrifennodd ar safon ymddygiad. Mae ei henw yn gyfystyr â moesau a defodau Americanaidd.[1]

Ganwyd Emily Price yn Baltimore, Maryland, yn unig plentyn i'r pensaer Bruce Price a'r buddsoddwraig Josephine Lee Price. Ym 1877 symudodd ei theulu i Manhattan a mynychodd Emily ysgol breifat. Daeth y teulu yn rhan o gylchoedd uchaf Dinas Efrog Newydd, ac ymddangosodd Emily fel débutante ym 1892. Priododd y dyn busnes Edwin M. Post a chafodd ddau fab, Edwin Jr. (ganwyd 1893) a Bruce Price (1895). Ceisiodd y cylchgrawn clecs Town Topics flacmelio Edwin am ei anffyddlondeb i'w wraig, ond gwrthododd dalu a thystiodd yn erbyn y cylchgrawn mewn achos enllib ym 1905. Danfonodd Emily ei feibion i ysgol breswyl cyn iddi ysgaru Edwin. Ni dderbyniodd Emily alimoni o'i gŵr gan iddo golli ei gyfoeth mewn buddsoddiadau aflwyddiannus, ac felly enillodd Emily arian trwy ysgrifennu. Cyhoeddwyd chwe nofel ganddi, straeon byrion, traethodau, a'r llyfr taith By Motor to the Golden Gate.[2]

Ysgrifennodd Etiquette in Society, in Business, and at Home a gyhoeddwyd gan Funk & Wagnalls ym 1922. Ni ddisgwylwyd y llyfr i fod yn llwyddiant sylweddol, ac argraffodd y cyhoeddwr 5000 o gopïau'n unig. Ond arhosodd ar restrau'r gwerthwyr gorau am 18 mis a chafodd ei ailargraffu o leiaf wyth o weithiau yn ystod y cyfnod hwnnw.[1] Esbonir llwyddiant aruthrol y llyfr gan y miliynau o Americanwyr oedd yn blant i fewnfudwyr ac yn dymuno cael crap ar foesau a defodau eu gwlad enedigol, ac Americanwyr eraill oedd am wella eu safle cymdeithasol.[2] Ysgrifennodd golofn i'r cylchgrawn McCall's a gafodd ei chyhoeddi mewn mwy na 150 o bapurau newydd ar draws y wlad.[2]

Sefydlodd The Emily Post Institute ym 1946, sy'n parhau i hyrwyddo safon ymddygiad yn yr Unol Daleithiau ac ailargraffu llyfrau Emily Post. Mae nifer o'i disgynyddion wedi dilyn camau Emily trwy ysgrifennu ar safon ymddygiad.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Kolbert, Elizabeth (20 Hydref 2008). Place Settings: Emily Post, at home. The New YorkerURL
  2. 2.0 2.1 2.2 Post, Emily (2004). "Intoduction". In Lancaster, Jane (gol.). By Motor to the Golden Gate. Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company. t. 2. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2012.

Darllen pellach

  • Claridge, Laura. Emily Post: Daughter of the Gilded Age, Mistress of American Manners (Random House, 2009).

Dolenni allanol