Robert Ellis (Cynddelw): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
dolen
Llinell 9:
Roedd Cynddelw yn ffigwr adnabyddus ym myd llenyddol Cymru ganol y [[19eg ganrif]]. Golygodd ''Geiriadur y Bardd'' (d.d.), ac ail argraffiadiau o ddau glasur o'r [[18fed ganrif]], sef ''[[Gorchestion Beirdd Cymru]]'' (1864) a ''[[Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym]]'' (''sic'') (Lerpwl, 1873).
 
Gweithiai'n gadarn o blaid y [[Cymraeg|Gymraeg]] ac yn [[1867]] cyhoeddodd ei [[Rhestr geiriaduron Cymraeg|eiriadur]] arloesol ''[[Geiriadur Cynddelw, 1868|Geiriadur Cymreig Cymraeg]]'', gyda'r is-deitl "sef, Geiriau Cymraeg yn cael eu hegluro yn Gymraeg". Dyma'r geiriadur uniaith Gymraeg gyntaf. Symbyliad Cynddelw oedd ennyn mwy o barch gan y Cymry at eu hiaith eu hunain. Fel y dywed yn ei ragymadrodd i'r gyfrol,
 
<blockquote>Dyma i chwi gynnyg newydd, a gwahanol i ddim a gafwyd o'r blaen, ym maes Geiriaduriaeth hen iaith y Cymry... Pa beth a ddywedasai y Saeson pe buasent yn awr heb yr un Geirlyfr yn eu hiaith eu hunain, namyn Saesonaeg a Lladin, neu Saesonaeg a Ffrangcaeg, etc.? Ond gadawyd ni hyd heddyw i ymdaro fel y gallem ar Eirlyfrau Cymraeg wedi eu hegluro yn Saesonaeg, neu yn y gwrthwyneb.</blockquote>