Robert Ellis (Cynddelw): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
manylion
Llinell 1:
[[Delwedd:Cynddelw_01.JPG|200px|bawd|Cynddelw ar ddiwedd ei oes]]
[[Bardd]], [[golygydd]] a geiriadurwr [[Cymry|Cymreig]] oedd '''Robert Elis''' ([[3 Chwefror]] [[1812]] – [[19 Awst]] [[1875]]), neu '''Cynddelw''', ganed yn Nhyn y Meini, Bryndreiniog, ger [[Penybontfawr]], plwyf [[Llanrhaeadr-ym-Mochnant]], yn yr hen [[Sir Drefaldwyn]], ([[Powys]]).<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-ELLI-ROB-1812.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 04/11/2012</ref>
 
==Gyrfa a gwaith llenyddol==
CafoddGwas fferm ydoedd o 1822 hyd 1835. Dechreuodd bregethu yn 1834 a chafodd yrfa hir fel gweinidog gyda'r [[Y Bedyddwyr|Bedyddwyr]]. Bu'n gweinidogaethu yn [[Llanelian]] a [[Llanddulas]], 1836-8 ; [[Glynceiriog]], 1838-42; [[Sirhowy]], 1847-62 a [[Caernarfon|Chaernarfon]] rhwng 1862-75.
 
Bu'n olygydd ar y cylchgronau ''[[Y Tyst Apostolaidd]]'' (1845-1850) ac ''[[Y Tyst]]'' (1857). Cyfranodd erthyglau ar [[Carnhuanawc]] a Dr [[William Owen Pughe]] i'r ''[[Gwyddoniadur Cymreig]]'' yn ogystal a chynorthwyodd [[Gweirydd ap Rhys]] ar ei gampwaith ''[[Hanes y Brytaniaid a'r Cymry]]''.
Llinell 13:
<blockquote>Dyma i chwi gynnyg newydd, a gwahanol i ddim a gafwyd o'r blaen, ym maes Geiriaduriaeth hen iaith y Cymry... Pa beth a ddywedasai y Saeson pe buasent yn awr heb yr un Geirlyfr yn eu hiaith eu hunain, namyn Saesonaeg a Lladin, neu Saesonaeg a Ffrangcaeg, etc.? Ond gadawyd ni hyd heddyw i ymdaro fel y gallem ar Eirlyfrau Cymraeg wedi eu hegluro yn Saesonaeg, neu yn y gwrthwyneb.</blockquote>
 
O'i waith ei hun, cyhoeddodd ''Manion Hynafiaethol'' (1873), cofiannau i'w athro John Williams (1805–1856) a Dr Ellis Evans o Gefn-mawr. Ymddangosodd eu cerddi yn y wasg Gymraeg ac fe'i cyhoeddwyd mewn un gyfrol, ''Barddoniaeth Cynddelw'' (1877) wedi ei farw yn ei hen gartref, y Gartheryr , rhwng [[Croesoswallt]] a Llanrhaeadr.
 
==Llyfryddiaeth==