Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru"

dim crynodeb golygu
(→‎Canlyniadau: galw am ymchwiliad newydd)
Gorchmynwyd ymchwiliad gan [[William Hague]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], ym 1996 yn sgil penderfyniad gan [[Cyngor Sir Clwyd|Gyngor Sir Clwyd]] i wrthod cyhoeddi adroddiad gan ymchwiliad llai. Gwnaed penderfyniad y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol a rybuddiodd y bydd yr adroddiad yn annog achosion llys a cheisiadau am iawndal.<ref name=Guardian>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.guardian.co.uk/uk/2000/feb/16/1 |teitl=Questions and answers that surround a catalogue of abuse against children |gwaith=[[The Guardian]] |dyddiad=16 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=24 Hydref 2012 }}</ref>
 
Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_641000/641827.stm |teitl=Cynnig llais i blant mewn gofal |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=13 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=23 Hydref 2012 }}</ref> Parhaodd y tribiwnlys am 203 o ddiwrnodau a chlywodd dystiolaeth gan 575 o dystion, gan gynnwys 259 o achwynwyr a honnodd iddynt gael eu cam-drin mewn gofal. Archwiliodd y tribiwnlys 9,500 o ffeiliau'r gwasanaethau cymdeithasol, 3,500 o ddatganiadau i'r heddlu a 43,000 o dudalennau o gwynion.<ref name=Guardian/> Costiodd yr ymchwiliad £12&nbsp;miliwn.<ref name=BBC-3-11-12/>
 
=== Adroddiad Waterhouse ===
Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad i Adroddiad Waterhouse.
 
Yn Nhachwedd 2012 galwodd Steve Meesham, dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan wleidydd Ceidwadol blaenllaw, am ymchwiliad newydd. Mewn cyfweliad ar y rhaglen [[BBC]] ''[[Newsnight]]'', dywedodd fod y gwleidydd wedi ei gam-drin yn fwy na dwsin o weithiau, ond ni chafodd enwi'r gwleidydd ar y rhaglen.<ref name=BBC-3-11-12>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20191048 |teitl=Dioddefwr yn galw am ymchwiliad newydd |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref><ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90517-dioddefwr-trais-rhywiol-yn-enwi-tori-blaenllaw |teitl=Dioddefwr trais rhywiol yn enwi Tori blaenllaw |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref> Cefnogir ymchwiliad newydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90582-pwyso-am-ymchwiliad-newydd-i-gylch-o-bedoffiliaid |teitl=Pwyso am ymchwiliad newydd i gylch o bedoffiliaid |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=4 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref>
 
{{eginyn-adran}}
== Darllen pellach ==
* Corby, B., Doig, A. a Roberts, V. ''Public Inquiries into Abuse of Children in Residential Care'' (Llundain, Jessica Kingsley, 2001).
* Webster, Richard. ''The Secret of Bryn Estyn: The Making of a Modern Witch Hunt'' (Orwell Press, 2005).
 
[[Categori:20fed ganrif yng Nghymru]]
[[Categori:Camdrin plant yn rhywiol]]
[[Categori:Sgandalau Cymru|Camdrin plant yng Ngogledd Cymru]]
{{eginyn hanes Cymru}}
 
[[en:Wales child abuse scandal]]
65,340

golygiad