Cenedlaetholdeb Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
sillafu
Llinell 13:
==Yr Ugeinfed Ganrif==
{{gweler|Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru}}
Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] yn [[1925]] o dan arweinyddiaeth [[Saunders Lewis]] gyda phwyslais ar ddiogelu'r [[Bro Gymraeg|fro Gymraeg]] a chymunedau Cymraeg ar draws y wlad. Ni ennilloddenillodd llawer o gefnogaeth gan bleidleiswyr i ddechrau, ond ar ôl [[yr Ail Ryfel Byd]], o dan arweinyddiaeth [[Gwynfor Evans]], dechreuodd y blaid ennill seddi mewn etholiadau lleol; ennillodd Evans sedd yn is-etholiad [[Caerfyrddin]] yn [[1966]], a bu ddau aelod arall o Blaid yn ennill seddi yn [[1974]]. Sefydlwyd nifer o fudiadau eraill yn y cyfnod hwn, gan gynnwys [[Cymdeithas yr Iaith]], a sefydlwyd yn [[1962]] fel ymateb i ddarlith Lewis, ''[[Tynged yr Iaith]]''. Bu fuddugoliaethau i'r cenedlatholwyr gyda darpariaeth addysg ddwyieithog yn yr [[1970au]] ac [[S4C]], y sianel deledu Gymraeg, yn [[1982]]. Ym Mawrth [[1979]], pleidleisiodd rhyw 80 % yn erbyn cynulliad Cymreig mewn refferendwm, wnaeth awgrymu taw teimlad diwylliannol yn hytrach na gwleidyddol oedd cenedlaetholdeb Cymreig yn bennaf. Yn yr [[1980au]], teimlodd rhai bygythiad gan fewnfudwyr o Loegr i [[cefn gwlad|gefn gwlad]] Cymru, oedd yn cynnwys twf yn [[tŷ gwyliau|nhai gwyliau]], a [[Llosgi Tai Haf|chafodd rhai eu llosgi gan eithafwyr]]. Ni chlywir sôn am ymreolaeth gan lywodraeth Prydain nes hwyr yr [[1990au]] gyda dychweliad [[y Blaid Lafur (DU)|y Blaid Lafur]] i [[San Steffan]]; ym Medi [[1997]] bu refferendwm ar [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|gynulliad Cymreig]] yn bennu gyda mwyafrif bach o blaid cynulliad.
 
[[Categori:Cenedlaetholdeb Cymreig| ]]