Mynydd Cefnamwlch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Bryn yn [[Llŷn]], [[Gwynedd]], yw '''Mynydd Cefnamwlch''
 
Bryn 182m o uchder ydyw o ddifrif, ond '''Mynydd Cefnamwlch''' yw ei enw diolch i barch bobl lleol amdano. Saif tua dwy filltir o lannau ogleddol [[Llŷn]], gyda'r brif ffordd rhwng [[Tudweiliog]] a [[Llangwnnadl]] (B4417, ffordd eilaidd) ar ei hochr ogleddol. Tua hanner milltir ar hyd y ffordd o droed Mynydd Cefnamwlch tuag at Llangwnnadl ceir troad lawr i'r dde tuag at blasdy Plas yn Mhenllech a'i heglwys hynafol. Yn fforchio o'r B4417 ym Meudu Bigin a throi'n ddwyreiniol mae ffordd gul tuag at [[Sarn Mellteryrn]], [[Bryncroes]] a [[Botwnnog]]. Wrth ddod allan o'r coed sydd ar naill ochr i'r ffordd yma fe welwch Goetan Arthur ar y dde mewn cae cyfagos, enghraifft dda o gromlech o'r Oes Neolithig (rhwng 2000 i 4000CC) ac mae'n bosib cerdded ato ac edrych draw ar yr olygfa tuag at [[Garn Fadryn]], [[Eryri]] a [[Môn]]. Cyn cyrraedd pentref Sarn Mellteyrn mae olion eglwys San Pedr ar y chwith, fe'i dymchwelwyd yn y 1990au.