Y Stafell Ddirgel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categoriau
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Nofel hanesyddol o gyfnod yr [[17fed ganrif]] wedi ei lleoli yn ardal Dolgellau yw '''''Y Stafell Ddirgel''''', gan [[Marion Eames]], cyhoeddwyd yn [[1969]]. Mae'r nofel yn ymdrin â'r erlid a fu ar y [[Crynwyr]] yn dilyn dyfodiad [[Siarl II o Loegr a'r Alban|Siarl II]] i orsedd Lloegr. Mae'r nofel yn dechrau ym [[1672]], deuddeng mlynedd wedi'r [[Adferiad]]. Dilyniant i'r Stafell Ddirgel yw'r [[Y Rhandir Mwyn|Rhandir Mwyn]]. Yn y nofel honno disgrifir helyntion y Cymry ar ôl iddynt ymfudo i America gan obeithio osgoi'r erlid a fu arnynt yng Nghymru
 
Daw Ellis, prif gymeriad y nofel, yn Grynwr o ganlyniad i ddylanwad cymydog ond mae ei wraig yn gwrthwynebu hynny. Yn dilyn ei marwolaeth ail-brioda ei gyfnither sy'n cydymdeimlo â'r achos. Fe'u bradychir i'r awdurdodau gan un o'i gyn-weision. Carcharir Ellis a'i gyd-grynwyr a'u dedfrydu i farwolaeth. Fe'u rhyddheir ar ôl ymyrraeth uniongyrchol y brenin, a phenderfynant ymfudo i America am fywyd gwell.