Y Scarlets: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 56:
 
==Cartref==
Mae Scarlets Llanelli yn chwarae y rhan fwyaf o'u gemau ar Barc y Strade yn Llanelli ond maent hefyd wedi chwarae sawl gêm ar Y Cae Ras yn Wrecsam. Yn aml gellir clywed caneuon fel "Calon Lan" a "Sosban Fach" yn yry stadiwm.
 
Cynlluniwyd y tymor 2006/07 fel y tymor olaf y byddai'r Scarlets yn chwarae eu rygbi ar Barc y Strade, a fydd wedyn yn cael ei ddymchwel ar gyfer datblygiad tai yn yr ardal. Cynllun swyddogol y clwb yw i ddefnyddio'r arian a ddaw o adeuladaeth y tai ar dir Parc y Strade i gyllido adeuladaeth stadiwm newydd ar safle yn Nhrostre. Amcangyfrifwyd y bydd y stadiwm newydd yn costio tua £45miliwn a bydd yn dal 13,500 o bobl. Mae cryn dipyn o wrthwynebiad i'r cynlluniau hyn yn lleol, ac mae problemau ynglŷn â peryg dilyw yn ardal breswyl y datblygiad wedi gohirio'r cynllun nes fod y Cynulliad Cenedlaethol yn caniatau i'r datblygiadau barhau.