Thebai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: Roedd '''Thebai''' (Hen Roeg: {{Hen Roeg|Θῆβαι}} — ''Thēbai'') yn ddinas yn Boeotia, oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf Groeg yr Henfyd. Enw'r dref ... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:30, 8 Ebrill 2007
Roedd Thebai (Hen Roeg: Θῆβαι — Thēbai) yn ddinas yn Boeotia, oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf Groeg yr Henfyd. Enw'r dref fodern ar y safle yw Thiva (Groeg: Θήβα).
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Cadmos, mab brenin Sidon. Tua diwedd y 6ed ganrif CC. daeth Thebai i wrthdrawiad ag Athen am y tro cyntaf, pan gynorthwyodd yr Atheniaid ddinas lai Plataea yn eu herbyn. Pan ymosododd Ymerodraeth Persia ar y Groegiaid yn 480 CC., gyrroedd Thebai 700 o filwyr i ymladd ym Mrwydr Thermopylae dan Leonidas, ond roedd rhain yn ŵyr oedd yn gwrthwynebu polisi llywodraethwyr y ddinas. Ymunodd yr uchelwyr oedd mewn grym yn Thebai â Xerxes yn erbyn y Groegiaid eraill, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr Plataea yn 479 CC.. Cefnogodd Thebai Sparta yn erbyn Athen yn y Rhyfel Peloponnesaidd, ac yn 424 CC. gorchfygasant Athen ym Mrwydr Delium.
Wedi buddugoliaeth Sparta yn y rhyfel, trôdd Thebai yn ei herbyn. Ym Mrwydr Leuctra yn 371 CC. enillodd Thebai dan Epaminondas fuddugoliaeth syfrdanol dros Sparta, a'i gwnaeth y ddinas fwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Daeth y cyfnod yma i ben pan laddwyd Epaminondas ym Mwydr Mantinea yn 362 CC.