Tref ar arfordir ddwyreiniol [[Ynys Môn]], ym mhwlyf [[Llanfair Mathafarn Eithaf]] yw '''Benllech'''. Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o [[Porthaethwy|Borthaethwy]] ar lôn yr [[A5025]], hanner ffordd rhwng [[Pentraeth]] a [[Moelfre]]. Mae ar [[Llwybr Arfordirol Ynys Mon|Lwybr Arfordirol Ynys Mon]]. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr poblogaidd yn yr haf ac mae [[twristiaeth]] yn chwarae rhan bwysig yn yr economi lleol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.
==Y dref heddiw==
Celr ysgol gynradd, meddygfa GP, llyfrgell, swyddfa post a nifer o gaffis a siopau bach yn y dref, ynghyd â thair tafarn. Dros y degawdau diwethaf mae nifer o bobl a arferai fynd ar eu gwyliau i Fenllech wedi prynu tai yn y dref ac mewn canlyniad mae hi wedi'i [[Seisnigo|Seisnigeiddio]] cryn dipyn, yn arbennig mewn cymhariaeth â'r pentrefi bach yn y cylch.
Ceir dwy [[siambr gladdu]] [[Neolithig]] hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd [[Goronwy Owen]] yn [[Rhosfawr]], dwy filltir i'r gorllewin o'r dref.
==Atyniadau eraill==
*[[Traeth Coch]] - bae llydan agored filltir a hanner i'r de-ddwyrain.
*Dinas - [[bryngaer]] dwy filltir i'r gogledd o'r dref, ger Traeth Bychan.
==Cludiant==
Ceir gwasanaethau bws i [[Amlwch]], [[Porthaethwy]] a [[Bangor]].