Hen Oes y Cerrig yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: vi, el, de, id, es, en, he, no, ja, ca, la, bg, ta, zh, cs, ro, eu, lv, sv, fr, pt, eo, oc, fi, nl, ms, it, ka, mk, pl, tr, ru, sr, uk, ko, da, hr, ur, ar, sl, lt, sh, sk, gl, et, bs, th, be-x-old, scn, li, ast, sq, bn, vls, cv, fy, t
Nodyn:Cyfnodau cynhanes Cymru
Llinell 1:
{{Nodyn:Cyfnodau cynhanes Cymru}}
[[Delwedd:Mammouth.png|200px|bawd|Mamoth]]
Mae cyfnod '''Oes yr Hen Gerrig yng Nghymru''' yn cynnwys hanes bodolaeth pobl yn y tir a elwir [[Cymru]] heddiw o'r cyfnod boreuaf hyd at tua [[9000 CC]]. Enw arall ar [[Oes yr Hen Gerrig]] yw'r '''Paleolithig'''. Ni wyddom i sicrwydd os bu pobl yn byw yng Nghymru yn y cyfnodau cynnes rhwng y gyfres o [[Oes yr Iâ|Oesoedd Iâ]] a gafwyd yn [[Ewrop]] gan fod y rhew wedi gorchuddio'r tir a dinistrio tystiolaeth bosibl ac eithrio yn achos rhimyn gul o dir ar arfordir y de. Ond mae'n bur bosibl fod ambell grŵp o bobl wedi croesi'r pont tir sych i hela ar y gwastadeddau gwelltog a adewid ar ôl y rhew yn y cyfnodau cynnes, efallai mor gynnar a 200,000-100,000 CC. Yn [[Ogof Pontnewydd]] yn nyffryn [[Afon Elwy]] yn [[Sir Ddinbych]] cafwyd hyd i ddannedd a darn o ên yn perthyn i ffurf gynnar o [[Dyn Neanderthal|Ddyn Neanderthal]] oedd yn byw rhwng 230,000 a 180,000 o flynyddoedd yn ôl.
[[Delwedd:Mammouth.png|200px|bawd|chwith|Mamoth]]
 
Mae ein gwybodaeth yn dibynnu ar dystiolaeth [[archaeoleg]]ol o'r [[ogof]]âu a breswylid gan bobl Paleolithig. Daw'r darganfyddiadu cynharaf ar ddiwedd Oes yr Hen Gerrig o ogofâu [[calchfaen]] yng ngogledd a de-orllewin Cymru. Gellir cymharu'r offer [[callestr]] o'r cyfnod hwnnw gydag offer cyffelyb sy'n perthyn i [[diwylliant Aurignac|ddiwylliant Aurignac]] (a elwir ar ôl ogofâu ger [[Aurignac]], de [[Ffrainc]]).
 
Mae'r sgerbwd a ddarganfuwyd yn [[Ogof Paviland]] yn [[1823]] yn dyddio o tua 16,500 CC. Roedd diwylliant y grwpiau bychain o [[hela|helwyr]] yng Nghymru yn perthyn i'r diwylliant paleolithig a elwir yn [[Diwylliant Creswell|Greswelaidd]] ac a geir yn gyffredinol yn ne [[Prydain]]. Ychydig iawn o bobl fu'n byw yng Nghymru, efallai cyn lleied â rhai cannoedd ohonyn nhw, ac roeddent yn rhannu'r tir ag anifeiliaid gwyllt megis y [[mamoth]]iaid diflanedig, [[Arth|eirth]] a cheirw anferth tebyg i'r [[elc]] yng ngogledd [[America]]. Yn ogystal â hela anifeiliaid roeddent yn hel llysiau a bwyd gwyllt arall. Does dim tystiolaeth ddibyniadwy am baentio ar furiau ogofâu.
[[Delwedd:Neanderthaler Fund.png|chwith|Argraffiad o ben Neadnderthal, gan arlunydd.]]
 
==Safleoedd Paleolithig yng Nghymru==