Prwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Yn y [[18fed ganrif]] dan reolaeth [[Ffrederic Fawr]] ([[1712]] - [[1786]]), Brenin Prwsia (o [[1740]] hyd ei farwolaeth), ehangwyd ei thiriogaeth. Yn ystod y [[Rhyfel Saith Mlynedd]] ([[1756]]-[[1763]]) roedd [[Prydain Fawr]], Prwsia a [[Hanofer]] ar y naill ochr yn brwydro yn erbyn [[Ffrainc]], [[Awstria]], [[Sweden]] a [[Sacsoni]] ar y llall. Cipiodd Prwsia [[Silesia]] a rhan o [[Gwlad Pwyl|Wlad Pwyl]] gan wneud Prwsia yn un o'r gwledydd grymusaf yn [[Ewrop]]. Ychwanegwyd rhagor o diriogaeth yng [[Cynhadledd Vienna|Nghynhadledd]] [[Vienna]] ([[1815]]) yn sgîl trechu [[Napoleon]] gan y cynghreiriad.
 
Yn ail hanner y [[19eg ganrif]] reolai [[Otto von Bismarck]] ([[1815]] - [[1898]]) ym Mhrwsia. Gorchfygodd [[Awstria]] a'i chynghreiriaid Almaenig yn [[1866]] ac ychwanegwyd [[Schleswig-Holstein]] i diriogaeth Prwsia a ffurfiodd [[Ffederaliaeth Gogledd yr Almaen]]. Dyma hedyn [[Ymerodraeth yr Almaen]] a sefydlwyd ar ôl i Brwsia ennill [[Rhyfel Ffrainc a Phrwsia]] ([[1870]]-[[1871|71]]) gyda Bismarck yn Brif Ganghellor.
 
Yn [[1918]], ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], daeth Prwsia yn weriniaeth annibynnol ond roedd wedi colli llawer o'i grym a'i dylanwad. Cafodd Prwsia ei diddymu gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]].