Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Prwsia"

Ychwanegwyd 31 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Yn ail hanner y [[19eg ganrif]] reolai [[Otto von Bismarck]] ([[1815]] - [[1898]]) ym Mhrwsia. Gorchfygodd [[Awstria]] a'i chynghreiriaid Almaenig yn [[1866]] ac ychwanegwyd [[Schleswig-Holstein]] i diriogaeth Prwsia a ffurfiodd [[Ffederaliaeth Gogledd yr Almaen]]. Dyma hedyn [[Ymerodraeth yr Almaen]] a sefydlwyd ar ôl i Brwsia ennill [[Rhyfel Ffrainc a Phrwsia]] ([[1870]]-[[1871|71]]) gyda Bismarck yn Brif Ganghellor.
 
Yn [[1918]], ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], daeth Prwsia yn weriniaeth annibynnol o fewn [[Gweriniaeth Weimar]], ond roedd wedi colli llawer o'i grym a'i dylanwad. Cafodd Prwsia ei diddymu gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]].
 
Daeth yr enw 'Prwsia' a'r ymadrodd 'gwerthoedd Prwsaidd' i ddynodi effeithiolrwydd, disgyblaeth a hunan-aberth.