Maes Awyr Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
Eldegales (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:CWL Aerial.jpg|150px|bawd|'''Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd''']]
'''Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd''' (cod IATA: CWL, cod ICAO: EGFF) ydy unig faes awyr mawr [[Cymru]]. Fe'i lleolir ym mhentref [[Y Rhws]] ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]], tua 12 milltir (19km) i'r de-orllewin o [[Caerdydd|Gaerdydd]].
 
===Hanes===
Sefydlwyd y maes awyr yn y 1940au pan gymerodd y Weinyddiaeth Awyr y tir i sefydlu maes ymarfer i'r Awyrlu Brenhinol. Dechreuwyd ar y gwaith ym 1941 ond laniodd yr un awyren fasnachol tan 1952 pan ddechreuodd cwmni [[Aer Lingus]] hedfan yno o Ddulyn. Codwyd adeilad newydd wedyn a dechreuwyd teithiau i Ffrainc, Belffast a Chorc. O ganlyniad i deithiau arbennig i bobl a oedd yn mynd ar wyliau, cododd nifer y teithwyr y flwyddyn i dros 100,000 erbyn 1962.
 
Tan y 1970au, enw'r maes awyr oedd 'Maes Awyr y Rhws' ond newidiwyd hyn i 'Faes Awyr Y Rhws, Morgannwg'. Ymwelodd yr awyren [[Concorde]] â'r maes awyr sawl gwaith ar achlysuron arbennig er i deithiau gael eu cyfyngu gan hyd y lanfa. Uwchraddiwyd enw'r maes awyr i 'Maes Awyr Caerdydd, Cymru' er bod Caerdydd rhyw 10 milltir i ffwrdd.
 
Denwyd mwy o fusnes i'r maes awyr wedi i'r lanfa gael ei hymestyn ym 1986 gan fod awyrennau jet newydd yn gallu glanio yno. Byddai awyrennau siarter i [[UDA]] a [[Chanada|Canada]] yn gadael y maes awyr, gan greu cysylltiadau awyr o Gymru. Sefydlwyd cyfleusterau cynnal a chadw gan [[British Airways]] yno hefyd ac maen nhw'n parhau yno hyd heddiw.
 
Ym mis Ebrill 1995, cafodd y maes awyr ei breifateiddio a gwerthwyd y cyfranddaliadau i gwmni TBI ccc, sydd bellach yn is-gwmni i 'abertis airports'.
 
Erbyn 2006 roedd dros 2 filiwn o deithwyr yn defnyddio'r maes awyr yn flynyddol.
 
==Y Dyfodol==
Bydd teithiau mewnol yn dechrau ym mis Mai 2007 yn sgil Goblygiad Gwasanaeth Cyhoeddus y [[Cynulliad Cenedlaethol]]. AM y tro cyntaf, bydd cysylltiad awyr rhwng gogledd a de Cymru, gyda dwy daith ddyddiol rhwng meysydd awyr Môn a Chaerdydd yn ystod yr wythnos.
 
 
===Dolen allanol===