Avilés: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

ardal weinyddol yn Asturies
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eldegales (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Trydedd ddinas Cymuned Ymreolaethol Astwrias yw '''Avilés'''. Dyna hefyd enw’r ardal gwmpasog sy’n cynnwys y ddinas, un o ardaloedd lleiaf Tywysogaeth Astwrias. Mae’r ddin...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:17, 11 Ebrill 2007

Trydedd ddinas Cymuned Ymreolaethol Astwrias yw Avilés. Dyna hefyd enw’r ardal gwmpasog sy’n cynnwys y ddinas, un o ardaloedd lleiaf Tywysogaeth Astwrias. Mae’r ddinas yn gartref i borthladd cenedlaethol pwysig ac mae’n ddiwydianol dros ben. Mae traethau poblogaidd megis Salinas gerllaw. Ym mis Chwefror bob blwyddyn, cynhelir ‘Carnaval’ yno, un o rai gorau Sbaen. Ceir parti ewyn enwog yng nghanol ardal yr hen ddinas pan mae’r diffoddwyr tân (yn draddodiadol) yn tywallt ffôm dros y torfeydd sydd wedi ymgasglu yno i ddathlu’r ŵyl.