Heno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Eldegales (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Rhaglen gylchgrawn oedd '''Heno'''. Fe'i darlledid ar S4C tray'r 90au nes i raglen debyg a gynhyrchid gan yr un cwmni Teledu Agenda (Tinopolis yn ddiweddarach) gymryd ei ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:42, 11 Ebrill 2007

Rhaglen gylchgrawn oedd Heno. Fe'i darlledid ar S4C tray'r 90au nes i raglen debyg a gynhyrchid gan yr un cwmni Teledu Agenda (Tinopolis yn ddiweddarach) gymryd ei lle. Ymhlith y cyflwynwyr gwreiddiol oedd Nia Dafydd, Siân Tomos ac Angharad Mair. Darlledid y rhaglen o Abertawe'n wreiddiol cyn symud i stiwdios newydd Agenda yn Llanelli ddiwedd y 90au.

Roedd y rhaglen yn arbennig o boblogaidd yn y de ond cafodd ei beirniadu gan nifer oherwydd y defnydd o'r Saesneg, yn enwedig wrth holi pobl ar y stryd a chynnal cyfweliadau yn y stwidio. Ymateb y cwmni teledu oedd mai ymgais i adlewyrchu'r gymuned ddwyieithog yr oedd yn darlledu ohoni hi oedd y rheswm dros y defnydd o'r Saesneg.

Byddai pob rhaglen yn cynnwys cyflweiadau yn y stwidio, eitemau nodwedd am ddigwyddiadau a newyddion o amgylch Cymru a nifer o slotiau am fywyd bob dydd. Ena Tomos oedd prif gogyddes y rhaglen a byddai'n egluro rysáit yn y gegin yn wythnosol. Byddai Huw 'Ffasiwn' wrth law i egluro'r trendiau diweddaraf. Cyflwynwyr diweddarach y rhaglen oedd Emyr Penlan, Brychan Llŷr, Roy Noble, Daloni Metcalfe a Carys Wyn.