Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '== Aneirin Karadog == Bardd, darlledwr, perfformiwr a ieithydd yw Aneirin Karadog (ganed 11, Mai, 1982) Bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir Gâr, ganwyd ...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 13:27, 30 Tachwedd 2012

Aneirin Karadog

Bardd, darlledwr, perfformiwr a ieithydd yw Aneirin Karadog (ganed 11, Mai, 1982)

Bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir Gâr, ganwyd Aneirin Karadog yn ybsyty H.M.Stabley Llanelwy ac fe'i magwyd am ddwy flynedd yn Llanrwst, cyn symud lawr i fyw ym Mhontardawe. Yno y bu tan 1990 pan symudodd ef a'i deulu i Bontypridd. Bu'n ddisgybl yn ysgol gynradd Pont-Siôn-Norton ac yna ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. graddiodd wedyn o'r Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen gyda gradd mewn ffrangeg a Sbaeneg. Bu'n gweithio am gyfnod gyda menter iaith Rhondda Cynon Taf cyn cael swydd yn llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu Tinopolis yn 2005. Mae e wedi cyflwyno ar Wedi 7 a bellach yn rhannu ei amser rhwng rhaglen Heno a Sam Ar y Sgrin, ar S4C.

Enillodd wobr emyr feddyg yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair yr urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddio ar y cyd yn y gyfrol Crap Ar Farddoni ac ym Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol, O Annwn i Geltia(Cyhoeddiadau Barddas).

Bu'n aelod o Genod Droog ac Y Diwygiad ac mae e wedi cyfrannu i amryw albyms cerddorol, gyda Llwybr Llaethog a Cofi Bach a Tew Shady.

Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres Byd y Beirdd i Radio Cymru.