Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Aneirin Karadog"

Ychwanegwyd 261 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Bardd, darlledwr, perfformiwr a ieithydd o [[Cymry|Gymro]] yw '''Aneirin Karadog''' (ganed [[11 Mai]] [[1982]])
 
Bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir Gâr, ganwyd Aneirin Karadog yn ybsyty H.M.Stabley [[Llanelwy]] ac fe'i magwyd am ddwy flynedd yn Llanrwst, cyn symud lawr i fyw ym Mhontardawe. Yno y bu tan 1990 pan symudodd ef a'i deulu i [[Pontypridd|Bontypridd]]. Bu'n ddisgybl yn ysgol gynradd Pont-Siôn-Norton ac yna ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. graddiodd wedyn o'r [[Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen]], gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Bu'n gweithio am gyfnod gyda menter iaith Rhondda Cynon Taf cyn cael swydd yn llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu [[Tinopolis]] yn 2005. Mae e wedi cyflwyno ar ''[[Wedi 7]]'' a bellach yn rhannu ei amser rhwng rhaglen ''[[Heno]]'' a ''[[Sam Ar y Sgrin]]'', ar [[S4C]].
 
Enillodd wobr emyr feddyg yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair yr urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddio ar y cyd yn y gyfrol Crap Ar Farddoni ac ym Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol, O Annwn i Geltia(Cyhoeddiadau Barddas).
 
Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres ''Byd y Beirdd'' i Radio Cymru.
 
== Llyfryddiaeth ==
* ''Crap ar Farddoni'' (Gwasg Carreg Gwalch, 2006).
 
{{DEFAULTSORT:Karadog, Aneirin}}
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Cyflwynwyr teledu Cymreig]]
[[Categori:Genedigaethau 1982]]
[[Categori:Ieithyddion Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Bontypridd]]
69,267

golygiad