Traeth Lafan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gramadeg
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Am ganrifoedd roedd pobl yn gorfod croesi Traeth Lafan ar lanw isel i ddal cwch fferi a ddeuai drosodd i'w cyfarfod er mwyn croesi i Ynys Môn. Dyma'r ffordd y cludwyd corff [[Siwan (gwraig Llywelyn Fawr)]] i'w orffwysfa ym [[Brodordy Llan-faes|mynachlog Llan-faes]] yn [[1237]]. Yma hefyd, yn ôl pob tebyg, yr ymladdwyd [[Brwydr Moel-y-don]] ar y 6ed o Dachwedd 1282, rhwng y Cymry a'r Saeson.
 
Mae glannau Traeth Lafan ynghyd â'r traeth ei hun yn Ardal Warchodedig Arbennig (AWA / SPA) am ei fod yn gartref i gynifer o adar. Mae'n safle arbennig o bwysig yn y gaeaf, pryd ceir nifer o adar dŵr yno, yn arbennig [[Pioden y Môr|piod y môr]] (''Haematopus ostralegus''). Pan fo'r tywydd yn ddrwg yn y gaeaf daw nifer o biod y môr draw o [[Glannau Dyfrdwy|Lannau Dyfrdwy]] i gysgodi. Mae hefyd niferodd o bwysigrwydd rhyng-genedlaethol o'r [[Pibydd Coesgoch]] (''Tringa totanus'') yn gaeafu yma. Rhwng Bangor a Llanfairfechan mae nifer o warchodfeydd sy'n cael eu cynnal gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor BwrdeisdrefBwrdeistref Sirol Conwy, yn bennaf ar gyfer adar: Aberogwen, Morfa Aber, Morfa Madryn a Glan-y-môr Elias.
 
== Gweler hefyd ==