Euboea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3:
'''Euboea''', hefyd '''Negropont''' neu '''Negroponte''', ([[Groeg]]: '''Εύβοια''' '''''Évia''''', [[Hen Roeg]] '''Εὔϐοια''' '''''Eúboia'''''), yw'r ail-fwyaf o ynysoedd [[Gwlad Groeg|Groeg]], gydag arwynebedd o 1609 milltir sgwar. Mae'n ynys hir a gweddol gul, rhyw 150 km o hyd a rhwng 50 km a 6 km o led. Roedd y boblogaeth yn 218,032 yn 2005.
Yn y gogledd, nid yw'r culfor rhwng Euboea a [[Thessalia]] ar y tir mawr ddim mwy na tua 40 medr o led yn ei fan gulaf, [[Culfor Euripus]]. Adeiladwyd pont dros y culfor am y tro cyntaf yn [[410 CC.]],
Yng [[Groeg yr Henfyd|Ngroeg yr Henfyd]] roedd dwy ddinas bwysig ar yr ynys, [[Chalcis]] ac [[Eretria]]. Yn [[490 CC]] dinistriwyd Eretria gan [[Ymerodraeth Persia]], ac er iddi gael ei hail-adeiladu yn dilyn buddugoliaeth y Groegiaid ym [[Brwydr Marathon|Mrwydr Marathon]], dinas Chalcis fu'r ddinas bwysicaf ar yr ynys o hynny ymlaen. Chalcis yw prifddinas yr ynys heddiw. Roedd yr ynys i gyd ym meddiant [[Athen]] erbyn y cyfnod yma. Yn [[410 CC]] llwyddodd yr ynys i adennill ei hannibyniaeth, ond wedi [[Brwydr Chaeronea (338 CC)|Brwydr Chaeronea]] yn [[338 CC.]] daeth yn eiddo [[Philip II, brenin Macedonia]], ac yn ddiweddarach yn eiddo Rhufain. Bu'n eiddo Fenis am gyfnod, hyd nes i [[Ymerodraeth yr Ottomaniaid]] ei chipio yn [[1470]]. Yn [[1830]] daeth yn rhan o Wlad Groeg annibynnol.
|