Seithenyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Yn ôl un traddodiad, ei feibion oedd y seintiau [[Tudno]] a [[Gwynhoedl]].
 
Yn yôl un fersiwn o'r chwedl am Gantre'r Gwaelod mae Seithenyn yn geidwad y llifddorau yn llys [[Gwyddno Garanhir]]. Un noson dymhestlog bu gwledda mawr yn y llys ac anghofiodd Seithenyn, oedd yn feddw, i edrych y llifddorau a'u cau rhag y môr. Oherwydd ei esgelusdod boddwyd trigolion Cantre'r Gwaelod i gyd, namyn y brenin ei hun.
 
Cyfeirir at Seithenyn yn y gerdd ''Boddi Maes Gwyddneu'' yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]]. Ar ddechrau'r gerdd mae'n cael ei orchmynu i edrych allan i weld rhuthr y môr, ond roedd eisoes yn rhy hwyr. Yn fersiwn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] o'r chwedl nid '''Seithenyn''' sy'n cael y bai am adael y môr i mewn, ond merch o'r enw Mererid. Ar ddiwedd y testun ceir un o [[Englynion y Beddau]] (orgraff ddiweddar):
:Bedd Seithenyn, synhwyr wan,
:Rhwng Caer Cenedyr a glan -- môr;