Pythia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Croesus
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
 
*Yn 546 CC. roedd [[Croesus]], brenin [[Lydia]] yn dymuno ymosod ar [[Ymerodraeth Persia]]. Cyn gwneud hynny, gyrrodd gennad i Delphi i ofyn barn yr oracl. Ateb yr oracl oedd, pe croesai Croesus [[Afon Halys]], byddai'n dinistrio ymerodraeth fawr. Cymerodd Croesus hyn fel arwydd i fynd ymlaen a'i ymgyrch, ond gorchfygwyd ef gan [[Cyrus Fawr]], brenin Persia. Gwireddwyd geiriau'r oracl; ond yr ymerodraeth a ddinistriwyd gan Croesus oedd ei ymerodraeth ef ei hun.
 
*Pan ymosododd [[Ymerodraeth Persia]] ar wlad Groeg yn [[480 CC.]] gofynnodd y [[Sparta|Spartiaid]] am broffwydoliaeth. Ateb y Pythia oedd y byddai un o ddau beth yn digwydd: un ai byddai Sparta'n cael ei dinistrio gan y Persiaid, neu byddai'n galaru am un o'i brenhinoedd. Lladdwyd [[Leonidas]], brenin Sparta, ym [[Brwydr Thermopylae|Mrwydr Thermopylae]].
 
*Yn ystod yr un rhyfel, gofynnodd yr [[Athen|Atheniaid]] am broffwydoliaeth. Ateb cyntaf y Pythia oedd dweud wrthynt am ffoi ar unwaith rhag y dinistr oedd ar ddyfod. Cynghorwyd yr Atheniaid gan yr offeriaid i ofyn i'r Pythia eto, a'r ateb y tro hwn oedd, er y byddai popeth arall yn cael ei ddinistrio, eto fe safai'r "muriau pren". Bu dadlau yn Athen ynghylch ystyr yr ymdrodd. Dadleuai [[Themistocles]] mai'r llynges oedd y "muriau pren", a bod yr oracl yn dweud wrthynt am ymddiried yn y llynges i achub Athen. Gwireddwyd y broffwydoliaeth pan orchfygwyd y llynges Bersaidd ym [[Brwydr Salamis|Mrwydr Salamis]].