Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hen Gymraeg"

Ychwanegwyd 1,150 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
Ychwanegwyd manylion am Garreg Cadfan a 'surexit', wedi eu codi'n rhannol o'r erthygl ar Cymraeg Cynnar. (Mae'n fwy addas eu cynnwys yma)
(Ychwanegwyd manylion am Garreg Cadfan a 'surexit', wedi eu codi'n rhannol o'r erthygl ar Cymraeg Cynnar. (Mae'n fwy addas eu cynnwys yma))
{{Cymraeg}}
Mae '''Hen Gymraeg''' yn enw ar gyfnod yn hanes yr [[Cymraeg|iaith Gymraeg]] asy'n estynnoddestyn o'r [[9fed8fed ganrif |9fed]] i'r [[11eg12fed ganrif]].
 
Prin yw'r testunau sydd wedi goroesi o gyfnod Hen Gymraeg. Yn eu plith gellir nodi'r arysgrif ar [[Carreg Cadfan|Garreg Cadfan]] (tua [[800]], mae'n debyg) a'r testun a elwir yn 'Gofnod ''surexit'''. Digwydd y testun hwnnw yn [[Llyfr Sant Chad]], a gedwir yn eglwys gadeiriol [[Caerlwytgoed]] (Lichfield). Gweithred gyfreithiol ydyw, a enwyd ar ôl ei air cyntaf (sydd, fel nifer o'r geiriau eraill, yn yr [[Lladin|iaith Ladin]]). Ysgrifennwyd y testun tua dechrau neu ganol y [[9fed ganrif]]:<ref>[[Dafydd Jenkins (hanesydd)|Jenkins, D.]] ac Owen, M. E. 1983/84 .The Welsh marginalia in the Lichfield Gospels. ''Cambridge Medieval Celtic Studies'', 5, 37–66; 7, 91–120.</ref>
Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau [[Lladin]], o'r cyfnod hwn wedi goroesi. Mae rhai o'r [[llawysgrif]]au a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. [[Llyfr Llandaf]] (a gedwir yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]), yr ''[[Annales Cambriae]]'' (cedwir un fersiwn o hwn yn y ''Public Record Office'' (PRO) yn Llundain a dau fersiwn yn y [[Llyfrgell Brydeinig]]), a gwaith y [[Cynfeirdd]].
 
<blockquote><tt>
''surexit'' tutbulc ''filius'' liuit ha''gener'' tutri dierchi tir telih haioid ilau elcu ''filius'' gelhig haluidt iuguret amgucant pel amtanndi ho diued diprotant ''gener'' tutri o guir imguodant ir degion guragon tagc rodesit elcu guetig ''equs tres uache, tres uache'' nouidligi namin ir ni be cas igridu dimedichat guetig hit did braut grefiat guetig nis minn tutbulc hai cenetl in ois oisau
</tt></blockquote>
 
Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau [[Lladin]], o'r cyfnod hwn wedi goroesi hefyd. Mae rhai o'r [[llawysgrif]]au a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. [[Llyfr Llandaf]] (a gedwir yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]), yr ''[[Annales Cambriae]]'' (cedwir un fersiwn o hwn yn y ''PublicNational Record OfficeArchives'' (PRO gynt) yn Llundain a dau fersiwn yn y [[Llyfrgell Brydeinig]]), a gwaith y [[Cynfeirdd]].
 
Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig brin. Yn y [[llawysgrifau Cymreig]] ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o [[cyfnewidiad seiniol|gyfnewidiadau seiniol]] yng nghanol neu ar ddiwedd [[gair]], e.e. '''atar''' (adar), '''nimer''' (nifer), '''douceint''' (deugain), '''merc''' (merch), '''trucarauc''' (trugarog). Ceir '''gu''' ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. '''petguar''' (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn [[treiglad|dreigladau]] ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis '''t''' i '''d''' yn '''atar/adar''', eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu bod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd '''oi''' neu '''ui''' lle yr yngenir wy heddiw, e.e. '''oith''' (wyth), '''troi''' (trwy), '''bloidin''' (blwyddyn), '''notuid''' (nodwydd). Ceir '''ou''' sydd heddiw'n '''eu''' neu '''au''', e.e. '''hithou''' (hithau), '''nouodou''' (neuaddau).
 
Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu '''y''' ar flaen geiriau'n dechrau ag '''s''' a chytsain arall megis '''stebill''' (ystafell), '''strat''' (ystrad). Safle'r acen yn y [[Brythoneg|Frythoneg]] oedd ar y sillaf cyn yr olaf (y goben). Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw, y sill olaf, fe fyddai’r acen ar sill olaf y gair newydd, e.e. '''trīnĭtātem''' i '''trindáwd''', a'r acen ar y sill olaf '''–áwd''' (dynoda '''΄''' safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r goben i roi '''tríndawd'''. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr '''aw''' oedd bellach yn ddiacen i '''o''' gan roi'r gair modern '''trindod'''. '''Ha''' a '''hac''' oedd ein '''ac''' a'n '''a''' ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
==Gweler hefyd==
*[[Brythoneg]] a [[Cymbrieg|Chymbrieg]]
*[[Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg]]
*[[Cymraeg Cynnar]]: 550 - 800750
*Hen Gymraeg: 800750 - 11001150
*[[Cymraeg Canol]]: 11001150 - 1400
 
[[Categori:Cymraeg]]
319

golygiad