Paleogen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Newydd
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:11, 5 Rhagfyr 2012

System Cyfres Oes Oes (Ma)
Cwaternaidd Pleistosenaidd Gelasaidd ifancach
Neogenaidd Plïosenaidd Piacensaidd 2.588–3.600
Sancleaidd 3.600–5.332
Mïosenaidd Mesinaidd 5.332–7.246
Tortonaidd 7.246–11.608
Serravallaidd 11.608–13.65
Langhianaidd 13.65–15.97
Bwrdigalaidd 15.97–20.43
Acwitanaidd 20.43–23.03
Paleogenaidd Oligosenaidd Cataidd hynach
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009.
Gofal: ceir cyfnod arall gydag enw tebyg: Paleocen.

Cyfnod a system ddaearegol ydy Paleogen (ansoddair: Paleogenaidd) (Saesneg: Palaeogene or Palæogene neu weithiau: Lower Tertiary) a ddechreuodd 65.5 ± 0.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac a ddaeth i ben 23.03 ± 0.05 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'n cynnwys cyfnod cyntaf yr Era Cenosen.[1] Mae'n rhychwantu cyfnod o 42 miliwn o flynyddoedd ac yn nodedig oherwydd mai yn y cyfnod hwn y datblygodd mamaliaid o fod yn ffurfiau bychan, syml i fod yn anifeiliaid gyda chryn amrywiaeth oddi fewn i'w grŵp. Esgblygodd yr aderyn hefyd yn y cyfnod hwn gan esgblygu i'w ffurfiau presennol, fwy neu lai. Roedd hyn yn ganlyniad i ddiwedd y cyfnod a raflaenai hwn, sef y cyfnod diwedd y dinosoriaid ac anifeiliaid eraill.

Delwedd:Eocene.jpg
Golygfa ddychmygol o blanhigion a ffawna'r cyfnod Paleogenaidd.

Mae'r cyfnod yn cynnwys israniadau a elwir yn Epoc/au: y Paleocen, yr Eocen a'r Oligocen. Mae'r system Paleogenaidd yn cael ei ddefnyddio am y creigiau a ffurfiwyd yn y cyfnod hwn.

Cyfnod Paleogen
65.5–23.03 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Delwedd:Blakey 35moll.jpg
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 26 Cyfaint %[2]
(130 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 500 rhan / miliwn[3]
(2 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 18 °C[4]
(4 °C uwch na'r lefel heddiw)


Cyfeiriadau