Gruffudd Llwyd ap Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Syr Gruffudd Llwyd ap Rhys''' (marw cyn [[12 Gorffennaf]] [[1335]]), Arglwydd Tregarnedd, yn [[uchelwr]] o [[Môn|Fôn]] ac yn un o ddisgynyddion [[Ednyfed Fychan]]; roedd yn arwr traddodiadol gwrthryfel tybiedig 1322.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GRUF-LLW-1335.html?query=Gruffydd+Llwyd&field=name Y Bywgraffiadur Ar-lein]; [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]; adalwyd 06 Rhagfyr 2012</ref><ref>[http://en.wikisource.org/wiki/Llwyd,_Gruffydd_(fl.1322)_(DNB00)] ''Dictionary of National Biography, 1885-1900, Volume 34']'; adalwyd 06/12/2012</ref> Dywedir mai ef a gludodd y newyddion at [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] Brenin Lloegr ei fod wedi cael [[Edward II, brenin Lloegr|mab]] yng [[Castell Caernarfon|Nghastell Caernarfon]]. Disgrifir ef mewn dwy gerdd gan y bardd [[Gwilym Ddu]] a alwai Gruffudd yn "Llew Trefgarnedd", sef ei gartref ym Môn.
 
Roedd ganddo dir yn [[Sir Ddinbych]], yn [[Llansadwrn]] yn [[Sir Gaerfyrddin]], ac yn [[Llanrhystud]] yn [[Sir Aberteifi]]. Roedd wedi etfeddu Tregarnedd a'r tiroedd yn sir Ddinbych ar ôl ei dad, [[Rhys ap Gruffydd]], a fu farw yng ngwanwyn 1284. Am rai blynyddoedd ochrai gyda brenin Lloegr ac yn 1283 derbyniwyd ef fel ''yeoman'' yng ngwasanaeth teulu'r brenin. Roedd eisoes yn farchog pan dalodd wrogaeth yn 1301 i Edward o Gaernarfon fel tywysog newydd Cymru. Parhaodd yn gyson hyd y diwedd yn ei deyrngarwch i'r brenin.