Nansi Richards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
 
Aeth i Goleg y Guildhall yn Llundain am flwyddyn cyn iddi hi adael i deithio'r neuaddau cerdd efo digrifwraig, 'Happy' Fanny Fields.<ref>[http://folktrax-archive.org/menus/cassprogs/351richards.htm Gwefan Folktrax]</ref> Derbynnodd sawl gwahoddiad yn ddiweddarach i chwarae o flaen y Teulu Brenhinol. Bu'n gweithio ar y ffilmiau [[Emlyn Williams]] Last Days of Dolwyn a Fruitful Years. Yn ystod ei gyrfa, Gweithiodd hi'n helaeth yn [[Yr Unol Daleithiau]] ym 1923, a eto yn [[Efrog Newydd]] ym 1973. roedd hi'n gyfaill i William Kellogg, perchennog y cymni sydd yn cynhyrchu [[Corn Flakes]], a dywedyd bod hi wedi awgrymu defnydd o'r ceiliog ar y paced.
 
Yn ystod yr [[Ail Rhyfel Byd]] teithiodd hyd a lled gwledydd Prydain gydag [[ENSA]] i ddiddori'r milwyr a chymerodd ran mewn dros 2,000 o gyngherddau gyda [[Côr Telyn Eryri|Chôr Telyn Eryri]] o 1930 ymlaen. Perfformiodd droeon o flaen y teulu Brenhinol a chafodd yr hawl gan George V i arddel y teitl "Telynores Frenhinol". Ond dewis peidio a wnaeth. Derbyniwyd MBE ym 1973 ar gyfer ei chyfranniad i gerddoriaeth Gymru. Ym 1977 cafodd radd Doethur er Anrhydedd mewn cerddoriaeth gan [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]].
 
Cyhoeddwyd cyfrol o'i atgofion -'Cwpwrdd Nansi' ym 1973, ac un arall yn hwyrach.
 
==Ysgoloriaeth Nansi Richards==
Mae Ymddiriodolaeth Nansi Richards yn cynnig Ysgoloriaeth yn flynyddol i delynorion o dan 25 oed sydd yn byw yng Nghymru neu â anwyd yng Nghymru. Mae [[Catrin Finch]] a [[Gwenan Gibbard]] ymhlith enillwyr yr ysgoloriaeth.<ref>[http://www.ysgoloriaethnansirichards.com/index.html Gwefan Ymddiriodolaeth Nansi Richards]</ref>
 
==Cyfeiriadau==