Mashriq: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 4:
 
Defnyddir y gair gan yr Arabiaid i gyfeirio at ardal eang yn y Dwyrain Canol rhwng gwledydd y [[Lefant]] ar lan y [[Môr Canoldir]] yn y gorllewin i'r ffin ag [[Iran]] yn y dwyrain. Cyfetyb felly i'r ''[[Maghreb|maghrib]]'' (مغرب), sef "Y Gorllewin", enw traddodiadol gwledydd [[Gogledd Affrica]]. Gorwedd [[Yr Aifft]] yn y canol rhwng y ddau ranbarth hyn; er ei bod yn agosach i'r Maghreb yn ddiwyllianol ac yn ieithyddol mae'n cael ei chynnwys weithiau yn y Mashriq neu'n sefyll ar wahân. Weithiau mae [[Sudan]] hefyd yn cael ei chynnwys yn y Mashriq. Mae'r ddau enw fel ei gilydd yn dyddio o gyfnod y goresgyniad [[Islam]]aidd. Mae'r Mashriq (heb yr Aifft) yn gyfateb yn fras i [[Bilad al-Sham]], ond yn cynnwys hefyd [[Irac]].
 
===Gwledydd modern y Mashriq===
*[[Syria]]
*[[Libanus]]
*[[Palesteina]] (am resymau gwleidyddol a diwyllianol nid yw [[Israel]] yn cael ei hystyried yn rhan o'r rhanbarth modern)
*gogledd [[Gwlad Iorddonen]]
*[[Iraq]]
*[[Kuwait]]
 
Hefyd weithiau:
*de [[Gwlad Iorddonen]]
*[[Yr Aifft]]
*[[Sudan]] (yn llai aml)
 
=== Gweler hefyd ===