Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Divec (sgwrs | cyfraniadau)
Dadansoddi
Divec (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 8:
Bu cwymp yng Nghanran poblogaeth Cymru a nododd eu bod yn siarad Cymraeg, a cwympodd y nifer absoliwt hefyd.
 
* '''Bu cwymp o 9%''' yng nghanran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg (o 20.87% i 19.0%, sef '''1.87 pwynt canran'''). Ond 3.5% oedd y cwymp yn nifer y siaradwyr. Mae'r ffigurau yn wahanol oherwydd twf ym mhoblogaeth Cymru. Bu cynnydd hefyd o ddau bwynt canran yn nifer y trigolion a ganwyd tu allan i'r wlad.
 
* '''Yn y De Orllewin''' y gwelwyd y '''cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr''', yn Sir Gâr, Ceredigion, Castell-Nedd Port Talbot ac Abertawe. Roedd [[Cyfrifiad 2001]] wedi dangos canran uchel o siaradwyr y siroedd hyn a oedd dros 65 oed, felly gellir dadlau fod rhan o'r cwymp presennol yn deillio o ostyngiad hanner canrif yn ôl yn nghanran y plant a fagwyd yn siarad Cymraeg.