Corinth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ga:An Choraint
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
[[Dinas]] hynafol a phorthladd pwysig yn ne canolbarth [[Gwlad Groeg]] yw '''Corinth''' ([[Groeg]]: ''Korinthos''). Fe'i lleolir yng nghornel gogledd-ddwyreiniol y [[Peloponnese]] ar [[Isthmws Corinth]]. Sefydlwyd y porthladd presennol i'r de o'r ddinas yn [[1858]] ger safle'r ddinas glasurol. Gerllaw mae [[Camlas Corinth]] sy'n cysylltu [[Gwlff Saronica]] a [[Gwlff Corinth]]. Corinth yw prifddinas [[Corinth (rhanbarth)|rhanbarth Corinth]].
 
Mae tystiolaeth [[archaeoleg]]ol yn dangos fod pobl yn byw ar safle Corinth ar ddechrau'r trydydd fileniwm CC. Datblygodd dinas hynafol Corinth fel canolfan masnach yn yr wythfed ganrif CC. Tyfodd i fod y [[dinas-wladwriaeth|ddinas-wladwriaeth]] ail fwyaf ar dir mawr [[Groeg yr Henfyd|Groeg]] a'r cyfoethocaf ohonynt i gyd ar ôl [[Athen]]. Y ddinas honno oedd prif gystadleuydd Corinth a'i chynghreiriad [[Sparta]] am rym a dylanwad yn y byd Groegaidd ac arweiniodd hynny at y [[Rhyfel Peloponnesaidd]] (431-404 CC). Llwyddodd Corinth i wrthsefyll grym yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] am gyfnod ond fe'i dinistiwyddinistriwyd gan y Rhufeiniaid yn [[146 CC]]. Cafodd ei hailsefydlu fel [[trefedigaeth]] Rufeinig yn [[44 CC]]. Blodeuodd eto fel canolfan masnach yn y cyfnod Rhufeinig ond yn ystod y [[Ymerodraeth Fysantaidd|cyfnod Bysantaidd]] crebychodd i fod yn dref fach ddigon di-nod.
 
==Adeiladau a chofadeiladau==