Jin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
B cyfeiriad
Llinell 1:
[[Delwedd:DecaturGins.jpg|bawd|250px|Detholiad o jin ar werth mewn siop wirodydd yn Decatur, Georgia, UDA.]]
[[Gwirod]] sydd ag [[aeron meryw]] fel prif darddiad ei flas yw '''jin''' neu '''wirod meryw'''.<ref>Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. ''[[Geiriadur yr Academi]]'' (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 604 [gin].</ref> Gellir [[distyllu]] jin o unrhyw [[grawn]], [[taten]] neu [[betysen|fetysen]], ond iddo gael blas aeron meryw. Gan amlaf caiff ei ddistyllu mwy nag unwaith.
 
Gwneir jin yn gyntaf yn [[yr Iseldiroedd]] yn yr 17eg ganrif, a chywasgiad o'r gair Iseldireg ''genever'' ([[merywen]]) yw "jin".<ref name="Brewer's">Rockwood, Camilla (gol.). ''[[Brewer's Dictionary of Phrase and Fable]]'', 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 557.</ref> Daeth yn boblogaidd iawn ym Mhrydain, yn enwedig [[Llundain]], mewn cyfnod a elwir yn y ''Gin Craze''.<ref>Dillon, Patrick. ''The Much-lamented Death of Madam Geneva'' (Llundain, Headline Review, 2002).</ref> Gelwir jin sych sydd ag [[alcohol y cyfaint|ABV]] o tua 40% yn jin sych Llundeinig. Cafodd y rhai gwreiddiol eu cynhyrchu yn Llundain, ond heddiw gellir eu distyllu yn unrhyw le. Gellir hefyd trwytho jin ag [[eirinen sur fach|eirin surion bach]] a siwgr i wneud y [[gwirodlyn]] a elwir yn jin eirin (Saesneg: ''sloe gin'').