Cherokee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid sr:Čiroki indijanci yn sr:Čiroki Indijanci |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 4:
Grŵp ethnig o frodorion Gogledd America yw’r '''Cherokee'''. Daw’r gair "Cherokee" o’r iaith [[Choctaw]] "Cha-la-ke", sy’n golygu "y rhai sy’n byw yn y mynyddoedd". Yn wreiddiol roedd y Cherokee yn eu galw eu hunain y is ''Ah-ni-yv-wi-ya'' ("Y brif pobl"). Maent yn siarad [[Cherokee (iaith)|Cherokee]], iaith [[Ieithoedd Iroquoiaidd|Iroquoiaidd]], sy’n defnyddio orgraff a ddyfeisiwyd gan [[Sequoyah]].
Pan ddaethant i gysylltiad ag Ewropeaid gyntaf yn y [[1600au]] roeddynt yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain yr hyn sy’n awr yr [[Unol Daleithiau]], yn enwedig taleithiau [[Georgia (talaith UDA)|Georgia]], [[Gogledd Carolina]] a [[De Carolina]] . Ystyrid hwy yn un o’r [[Pum Llwyth Gwareiddiedig]]. Yn y [[1830au]], gyda phoblogaeth Ewropeaidd y tiriogaethau hyn yn cynyddu’n gyflym. gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i symud tua’r gorllewin i [[Yr Ozarks|Lwyfandir Ozark]] yn yr hyn a elwir yn [[Llwybr y Dagrau]].
Yn ol cyfrifiad 2000 yn yr Unol Daleithiau, y Cherokee yw’r mwyaf niferus o’r 563 llwyth brodorol yn yr Unol Daleithiau, y rhan fwyaf ohonynt yn [[Oklahoma]]. Yn y blynyddoedd diwethaf mae dadlau wedi bod a ddylai disgynyddion caethweision duon fu ym mherchenogaeth y Cherokee yn y cyfnod cyn [[Rhyfel Cartref America]] gael eu hystyried fel aelodau o genedl y Cherokee. Mae’r ddadl yn parhau yn 2007, gyda nifer o achosion llys.
|