Llain Gaza: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B cywiro
Llinell 8:
Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef [[Gaza]]. Rheolir y llain gan lywodraeth [[Hamas]] ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd [[Maes Awyr Yasser Arafat]] ganddynt). I'r de, ar y ffin â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger [[Rafah]], ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.
 
Yn Rhagfyr 2008, cafwyd [[Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2008–2009|ymosodiad]] gan Lu Awyr Israel pan laddwyd 1,417 o Balisteiniaid ac 13 o Israeliaid. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudwyd tanciau a milwyr Israel i fewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon. Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar [[Ymosodiad Israel ar lynges ddyngarol Gaza 2010|lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza]]. Ail-gododd y brwydro pan ymosododd byddin Israel mewn ymgyrch a alwyd ganddynt yn [[Ymgyrch Colofn o Niwl, 2011]] pan laddwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid a 6 Israeliad.
 
== Dinasoedd ==