Slefren fôr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
refs
BDim crynodeb golygu
Llinell 13:
Mae'r '''slefren fôr''' (neu ar lafar gwlad: '''cont fôr''') yn perthyn i'r [[ffylwm]] [[Cnidariad]] ac yn greaduriaid [[Infertebrat|di-asgwrn cefn]]. Maent yn nofio drwy symud eu siap tebyg i gloch neu ymbarel o jeli. Mae ganddynt ''tentacles'' y defnyddiant i frathu neu bigo eu hysglyfaeth.
 
Maent i'w canfod ym mhob cefnfor - o wyneb y dŵr i'r dyfnder eithaf. Ychydig iawn ohonynt sy'n gallu byw mewn [[dŵr croew]], fodd bynnag. Maent wedi nofio'r moroedd ers o leiaf 500 miliwn o flynyddoedd,<ref>Public Library of Science. ''"Fossil Record Reveals Elusive Jellyfish More Than 500 Million Years Old."'' ScienceDaily, 2 Tach. 2007. Web. 16 Ebrill 2011.[http://www.sciencedaily.com/releases/2007/10/071030211210.htm]</ref> ac o bosib 700 miliwn o flynyddoedd neu ragor, sy'n eu gwneud yn un o'r mathau hynaf o anifail aml-organ ar wyneb y Ddaear.<ref name=angier2dec/>
 
Defnyddir y gair ''jellyfish'' yn y Saesneg ers 1796,<ref name=etymol>[http://www.etymonline.com/index.php?search=jellyfish Online Etymology Dictionary]</ref> ond mae'r gair Cymraeg yn llawer hŷn.