Adam Smith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: jbo:.adam. smit.
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:AdamSmith.jpg|bawd|220px|Adam Smith]]
 
Athronydd [[Albanwyr|Albanaidd]] oedd '''Adam Smith ''' (Mehefin [[1723]] - [[17 Gorffennaf]], [[1790]]). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur dau lyfr, ''[[The Theory of Moral Sentiments]]'' (1759), a ''[[The Wealth of Nations|An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations]]'' (1776). Roedd yn un o sylfaenwyr astudiaeth [[economeg]] fel pwnc academaidd.
 
Ganed ef yn [[Kirkcaldy]], [[Fife]], [[Yr Alban]]; nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef ar [[5 Mehefin]] 1723. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 14 oed, lle astudiodd athroniaeth foesol. Yn [[1740]] aeth i [[Coleg Balliol, Rhydychen|Goleg Balliol, Rhydychen]].
 
Yn [[1748]] dechreuodd roi darlithoedd cyhoeddus yng [[Caeredin|Nghaeredin]], a daeth i adnabod [[David Hume]]. Yn [[1751]] daeth yn Athro rhesymeg ym Mhrifysgol Glasgow. Cyhoeddodd ''[[The Theory of Moral Sentiments]]'' yn 1759. Ymddangosodd ''[[The Wealth of Nations]]'' yn 1776, a gwnaeth ei awdur yn enwog.