Tynwald: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: lt:Tinvaldas
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Manx_coat.PNG|150px|bawd|Arfau Ynys Manaw]]
Y '''Tynwald''' ([[Manaweg]]: ''Tinvaal'') yw [[senedd]] ddeddfwriaethol [[Ynys Manaw]] (''Ellan Vannin''). Mae'n cynnwys dwy gangen sy'n eistedd ar y cyd neu'n annibynnol, sef y [[Kiare as Feed]] ("pedwar ar hugain", Tŷ'r Agoriadau) etholedig ac [[Yn Choonseil Slattyssagh]] (Y Cyngor Deddfwriaethol). Dywedir mai'r Tynwald yw'r corff deddfwriaethol hynaf yn y byd sydd wedi bodoli'n ddidor, am iddo gael ei sefydlu yn y flwyddyn [[979]].
 
Mae canghennau'r Tynwald yn eistedd ar y cyd ar 'Ddydd Tynwald' (''Laa Tinvaal'') yn [[St John's (Ynys Manaw)|St John's]] (''Balley Keeill Eoin'') i ddeddfu, ac ar achlysuron eraill yn y brifddinas [[Douglas (Ynys Manaw)|Douglas]] (Doolish) i ddelio ag ariannu a pholisi'r llywodraeth. Fel arall maent yn eistedd yn annibynnol, gyda Tŷ'r Agoriadau yn ystyried cynigion deddfwriaeth y llywodraeth a'r Cyngor yn gweithredu fel siambr adolygol.