Rhyfeloedd y Rhosynnau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Delwedd:Yorkshire rose.svg|bawd|200px|Rhosyn Swydd Efrog]]
 
Roedd '''Rhyfeloedd y Rhosynnau''' yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o [[1455]] i [[1485]] rhwng cefnogwyr Teulu Lancaster (y'r [[Lancastriaid]]) a Theulu Iorc (yr'r [[Iorciaid]]) oeddynt. Fe'i gelwir "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y [[rhosyn]] coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd [[Coron Lloegr]]. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt un ogystal.
 
Uchafbwynt y rhyfeloedd oedd buddugoliaeth [[Harri Tudur]] ym [[Brwydr Bosworth|Mrwydr Bosworth]] yn [[1485]]; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn [[Sir Benfro]], trechodd Harri y brenin [[Rhisiart III o Loegr|Rhisiart III]] a chipiodd goron [[Lloegr]] gan agor [[Cyfnod y Tuduriaid yng Nghymru|cyfnod y Tuduriaid]].